Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


NEWCES – Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 07/02/2020

Yn ddiweddar, ymwelodd Aelodau o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyngor Sir y Fflint â Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru.

Cawsant eu tywys o amgylch y cyfleuster ym Mhenarlâg sy’n darparu Gwasanaeth Offer Cymunedol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. 

Roedd y gwasanaeth a’i holl gyflawniadau wedi creu argraff ar Aelodau’r Pwyllgor.   Mae’r gwasanaeth yn cael ei gyllido ar y cyd gan dri partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir y Fflint.  Sir y Fflint yw’r awdurdod cynnal a’r partner arweiniol. 

Gyda fflyd o saith cerbyd, mae’r gwasanaeth yn darparu ac yn gosod dros 30,000 o eitemau o offer y flwyddyn ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn ail-ddefnyddio 90% o’r offer sy’n cael eu dychwelyd.  Mae’r 10% sy’n weddill yn cael eu hailgylchu.

Canmolodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint y gwasanaeth, a dywedodd:

“Mae’r ddarpariaeth o offer cymunedol yn hanfodol ar gyfer hybu annibyniaeth pobl anabl o bob oed. Mae hyn yn galluogi unigolion i ymdopi yn annibynnol heb yr angen am wasanaethau eraill, ac yn cynyddu cyfraddau rhyddhau o’r ysbyty ac yn cynorthwyo i rwystro pobl rhag gorfod aros yn yr ysbyty’n ddiangen. 

“Mae sicrhau bod yr offer iawn yn lân ac mewn cyflwr da ac yn y lle iawn yn her.  Mae’r tîm yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth ardderchog a rhaid eu canmol am eu hymrwymiad a’u gwaith caled.”

Mae NEWCES yn cael ei gydnabod fel arweinydd y farchnad yng Nghymru.  Mae’r gwasanaeth yn ymfalchïo ar weithio’n rhanbarthol ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda BIPBC yng Ngogledd Orllewin Cymru gyda’u gwasanaeth offer cymunedol.  Maent hefyd yn datblygu dull newydd i gyflymu swyddogaethau craidd, drwy integreiddio’r defnydd o ddyfeisiau symudol uwch (teclynnau cledr llaw) i’r gymuned ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy gwyrdd, modern ac effeithlon ar gyfer y dyfodol. 

IMG_20200130_120647_resized_20200130_020904114.jpg