Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedaun Gyntaf yn cynnig cyrsiau am ddim

Published: 27/04/2015

Wyddoch chi fod Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf Glannau Dyfrdwy yn cynnig amrywiaeth eang o  gyrsiau ardystiedig? Hoffech chi ddysgu Cymraeg neu wella’ch sgiliau Cymraeg? Hoffech chi gyngor i’ch helpu chi mewn cyfweliadau, neu i’ch helpu chi i fagu hyder? Beth am ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf? Mae’r cyrsiau gan Gymunedau’n Gyntaf yn cynnwys Gweinyddiaeth Busnes; Cymraeg lefel  un a dau; Iechyd a Diogelwch lefel dau; Cymorth Cyntaf lefel dau, Cymorth Cyntaf i Blant; Magu Hyder; sgiliau cyfweliad; sgiliau gwerthu; sgiliau cyfrifiaduron sylfaenol; a Diogelwch Bwyd lefel dau. Cyrsiau undydd yw’r rhan fwyaf ohonynt a chewch dystysgrif ar ôl eu cwblhau. Cânt eu cynnal yn lleol yn ardal Queensferry a Chei Connah. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Christine, Cymunedau’n Gyntaf ar 01244 846090.