Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn mynd i’r afael â’r clefyd coed ynn

Published: 03/03/2020

Pathogen ffwngaidd ydi clefyd coed ynn ac mae’n effeithio ar goed ynn brodorol y DU; hwn ydi’r clefyd coed mwyaf arwyddocaol i effeithio ar y DU ers clefyd llwyfen yr Iseldiroedd.

Mae’r clefyd wedi cyrraedd Sir y Fflint ac fe all effeithio ar filoedd o goed ynn yn y sir. Does dim modd atal lledaeniad y clefyd sy’n golygu bod yna oblygiadau diogelwch i’r Cyngor a thirfeddianwyr pan fo coed ynn wrth ymyl pobl neu eiddo. 

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn a bydd yn dechrau ei arolwg coed ynn fis Mai (dyma’r adeg orau i edrych ar y coed oherwydd eu bod yn eu dail). 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Hon fydd y flwyddyn gyntaf i ni arolygu coed ac mae gennym ni gynllun o ran pa ardaloedd y byddwn yn mynd i’r afael â nhw’n gyntaf. Yn amlwg, mae’n bwysig edrych ar y coed sy’n agos at briffyrdd a mannau cyhoeddus ac felly byddwn yn canolbwyntio ar y rhain yn gyntaf. Mae arnom ni eisiau codi ymwybyddiaeth tirfeddianwyr bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r clefyd a’i effeithiau, a sicrhau eu bod yn delio ag unrhyw berygl posibl." 

Dydi clefyd coed ynn ddim bob tro yn golygu y bydd y goeden yn marw ond mae’r gyfradd goroesi yn isel. Yn ôl tystiolaeth o dir mawr Ewrop mae 10% o’r coed yn arddangos goddefedd cymedrol a rhwng 1% a 2% yn arddangos goddefedd lefel uchel. 

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir yn cael eu diogelu (e.e. adar nythu, ystlumod a phathewod), sydd eisoes mewn perygl oherwydd colli cynefinoedd coed ynn. 

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau ar gyfer tirfeddianwyr, rheoli coed er diogelwch a gwarchod bywyd gwyllt, ar gael ar wefan y Cyngor siryfflint.gov.uk/ClefydCoedYnn.

 

Ash dieback 1.jpg         

Dail heintiedig marw yn crogi ar ganghennau

 

Ash dieback 2.jpg          

Rhisgl marw yn ffurfio briw siâp diemwnt o amgylch cangen ochr farw