Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Marchnad Gymunedol Treffynnon i ailgychwyn

Published: 05/03/2020

Ar 12 Mawrth 2020, bydd Marchnad Gymunedol Treffynnon yn agor eto – y farchnad fwyaf i’w chynnal yn Nhreffynnon ers dros 30 mlynedd.

Mae’r farchnad yn cael ei hail-lansio a bydd yna dros 30 o stondinau yn cynnwys bwyd a chrefftau a bydd yn agored rhwng 9am a 3pm.

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar, y consensws cyffredinol oedd cadw’r farchnad ar y Stryd Fawr yng nghanol y dref, sy’n golygu y bydd y ffordd ynghau ar ddydd Iau.  

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae marchnadoedd yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd y dref a gallant ddod â mwy o bobl i’r dref sydd o fudd i'r busnesau a gwasanaethau ehangach.  Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi gwaith gwych mae rhanddeiliaid lleol yn ei wneud i ddatblygu eu marchnad yn Nhreffynnon.   Bydd y Cyngor yn trafod gyda phawb sy’n cymryd rhan ar ôl yr haf i adolygu’r farchnad a’i weithrediad a’i ddatblygiad yn y dyfodol.”

 

 

Holywell Community Market.JPG