Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio Canol y Dref

Published: 10/03/2020

Bydd aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter yn cyfarfod i adolygu adroddiad ar adfywio canol y dref.

Bydd yr adroddiad yn cynnwys adolygiad ar weithredu’r blaenoriaethau i adfywio canol y dref ac yn gofyn am gefnogaeth ar gyfeiriad strategaeth y Cyngor i’r dyfodol.

Yn genedlaethol, mae nifer o drefi yn wynebu heriau yn eu sefyllfa economaidd oherwydd newid mewn ymddygiad gan siopwyr a’r diwydiant adwerthu. Dyw’r effaith ar ganol trefi Sir y Fflint heb fod yn sylweddol, ond, mae’r golled o fanciau ar y stryd fawr wedi bod o bwys mawr mewn nifer o drefi yn y sir.

Mae’r Cyngor bob amser wedi cefnogi canol trefi, er bod cwmpas y gwasanaeth adfywio yn Sir y Fflint wedi lleihau yn sylweddol oherwydd pwysau cyllidebol. Mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cyflogi un swyddog llawn amser sydd yn cyfyngu datblygiad mewn prosiectau, a chyrraedd gofynion Llywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, argymhellir bod y gwasanaeth yn cyflogi uwch swyddog ychwanegol gyda phrofiad perthnasol.

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd Cyngor Sir Y Fflint:

“Byddai’r cynnydd mewn gallu yn caniatáu gweithio ar dargedu eiddo gwag neu rhai nas defnyddir digon yn y dref gan amrywio’r defnydd mewn tir i gynnal bywioldeb ac ymarferoldeb o ganol trefi ymhlith pethau eraill”.

“Mae llawer o waith da wedi cael ei wneud yn barod gyda Menter Treftadaeth Treflun yn Nhreffynnon, uwch gynlluniau ar gyfer Y Fflint a Bwcle ynghyd ag adnewyddu a gwelliannau yr Wyddgrug, Queensferry a Chei Connah. Wrth symud ymlaen, rydym angen dull rheoli uchelgeisiol sydd wedi cael ei adnabod fel blaenoriaeth allweddol yng nghynlluniau’r Cyngor.”

Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol yn null rheoli’r Cyngor, a fydd yn caniatáu dull rheoli strategaethol newydd i adfywio pob tref i greu lleoedd llwyddiannus a chynaliadwy. Drwy gyfuno polisïau dulliau rheoli Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu canol y dref, bydd y dull rheoli diweddaraf gan y Cyngor yn annog pob rhan o’r Cyngor i ystyried, drwy gyflenwi gwasanaethau a’u gwariant, sut y maent am gefnogi agenda adfywiad canol trefi.