Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Llwybrau i Ofal Cymdeithasol

Published: 12/03/2020

Mae Cymunedau Am Waith Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi darparu dwy raglen hyfforddiant “Llwybr i Ofal Cymdeithasol” yn llwyddiannus unwaith eto, i roi cyfle i bobl leol ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol. 

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.   Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint.   Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.

Roedd y cyrsiau uwch Llwybrau i Ofal Cymdeithasol hyn, a gynhaliwyd dros bum niwrnod, yn rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr dderbyn hyfforddiant gorfodol gofynnol i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol.    Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys: diogelu, rheoli haint, diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch, y cyfan yn cynnwys safon a gymeradwy-wyd gan Sir y Fflint i weithio mewn sefydliadau gofal ar draws y sir.     

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt.    Nid yn unig mae’r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.”  

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“O fewn degawd, mi fydd arnom ni angen 20,000 o bobl ychwanegol i weithio yn y sector gofal yng Nghymru.   Mae cyrsiau fel hyn yn gyfle gwych i gyflwyno pobl leol i’r sector a helpu i uwchsgilio a chefnogi pobl yn y diwydiant i ddal i fyny gyda’r galw cynyddol am wasanaethau gofal.

“Mae’n wych bod sawl un o’r mynychwyr ar y cyrsiau diweddar wedi dod o hyd i waith yng nghynlluniau gofal ychwanegol Sir y Fflint a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.” 

Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch â'r swyddfa ar 01352 704430.

 

Pathway into social care.jpg