Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi gwelliannau i rwydwaith ffyrdd y Fflint

Published: 16/03/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid o’u Cronfa Trafnidiaeth Leol i wella’r rhwydwaith priffyrdd yn y Fflint.

Mae’r cynllun yn cynnwys uwchraddio’r goleuadau traffig presennol ar yr A548 / Stryd yr Eglwys, gan gynyddu’r cyfleusterau parcio ar y Stryd Fawr, parcio rheoledig o amgylch Neuadd y Dref, gwelliannau i’r llwybr beiciau sy’n cysylltu prif gyrchfannau a gorchmynion rheoleiddio traffig i wella diogelwch ar y priffyrdd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae hwn yn brosiect gwych fydd yn darparu cysylltiadau mwy hygyrch i’r rhwydwaith teithio llesol yn ac o amgylch y Fflint, bydd yn gwella llif y traffig ar yr A548 ac yn darparu parcio am ddim ychwanegol ar Stryd yr Eglwys.  Er gwaethaf wynebu cyfyngiadau ariannol parhaus, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwelliannau hyn i’n rhwydwaith ffordd sy’n dangos pa mor bwysig yw hyn i’r Cyngor.

Mae’r Cyngor yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith hwn yn ei achosi i fod i ddechrau ar 23 Mawrth.