Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Cyngor Sir y Fflint: Coronafeirws (Covid-19) – Gwasanaethau’r Cyngor

Published: 24/03/2020

Neithiwr, cyhoeddodd Llywodraethau’r DU a Chymru fesurau llym newydd ar gyfer teithio hanfodol, cadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus. 

Bydd gwasanaethau a chyfleusterau’r Cyngor a fyddai’n annog pobl i deithio’n ddiangen petaent yn parhau ar agor, yn cau ar unwaith. 

Mae Canolfannau Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu yn un o’r gwasanaethau hynny. Mae pob canolfan ar gau nes y rhoddir rhybudd pellach. 

Nid yw teithio i’r safleoedd yma i gael gwared ar wastraff yn rheswm dilys dros adael eich cartrefi a theithio. 

Bydd gweithwyr yn y safleoedd hyn yn cael eu hadleoli i gefnogi gwasanaethau casglu gwastraff eraill pwysig dros y cyfnod yma. 

Cynghorir preswylwyr i storio unrhyw wastraff swmpus, gwastraff DIY, eitemau trydanol a gwastraff yr ardd gartref ar eich eiddo hyd y gellir rhagweld.  Peidiwch â rhoi’r gwastraff yma allan i’w gasglu ar eich diwrnod casglu biniau ymyl palmant arferol, gan na fyddwn yn ei gasglu.  

Os ydych chi’n darganfod gwastraff peryglus ar eich eiddo wrth i chi ymgymryd â phrosiect DIY neu adeiladu, megis asbestos, cysylltwch â’r Cyngor ar unwaith i gael cyngor. 

Bydd y Cyngor yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd cenedlaethol ar unwaith. Efallai y bydd rhagor o gyfarwyddiadau i ddilyn. Byddai peidio â dilyn y rhain yn mynd yn groes i ganllawiau’r Llywodraeth. Bydd unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a fydd yn cael eu heffeithio gan gyhoeddiad o’r fath yn cael eu cau neu eu tynnu nôl ar unwaith. 

Mae pob gwasanaeth hanfodol y Cyngor yn dal i gael eu cynnal fel arfer oni bai eu bod ar y rhestr sy’n nodi eu bod ar gau neu wedi’u cyfyngu ar wefan Cyngor Sir y Fflint: www.siryfflint.gov.uk.  Serch hynny, mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym iawn. 

Rydym yn apelio am eich cydweithrediad a’ch amynedd.