Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gohirio Ffioedd Maes Parcio

Published: 26/03/2020

Mae ffioedd ym mhob maes parcio talu ac arddangos ar draws y sir wedi’u gohirio o 25 Mawrth. 

Gwnaed y penderfyniad er mwyn lleihau’r cyswllt personol a’r perygl o drosglwyddo COVID-19/Coronafeirws ar y peiriannau, ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a siopa hanfodol yn ystod y cyfnod heriol ma. 

Er y gallwch barcio am ddim yng nghanol ein trefi ar hyn o bryd, rydym angen i chi ddilyn cyngor y Llywodraeth a:

  • Pheidio â theithio oni bai fod wirioneddol raid i chi
  • Dim ond ar gyfer cyflenwadau hanfodol y dylech siopa (bwyd, meddyginiaeth)
  • Osgoi ymgasglu fel criw, hyd yn oed y tu allan
  • Cadw 2m o bellter o unrhyw berson os nad ydynt yn byw yn yr un ty â chi 

Bydd pob maes parcio’n parhau i gael eu monitro. Dylech barcio’n gyfrifol o fewn y llinellau, ac ffwrdd o gerbydau eraill lle y bo’n bosibl. 

Maes Parcio Gamfa Wen a Glanhau’r Traeth

Mae maes parcio Gamfa Wen yn Nhalacre bellach wedi cau. 

Mae’r maes parcio yma’n darparu meysydd pario ychwanegol ar gyfer twristiaid ac ymwelwyr tymhorol ac nid oes ei angen hyd y gellir rhagweld. 

Mae’r tirfeddiannwr wedi cysylltu â’r Cyngor gan ddweud y bydd maes parcio’r traeth yn cau hefyd. 

Yn ystod y cyfnod yma, bydd y gwaith o lanhau’r traeth yn cael ei ohirio a bydd yr adnoddau’n cael eu hadleoli i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau adnoddau ar draws y Sir. 

Os ydych chi’n byw yn lleol ac yn cerdded ar y traeth, dilynwch gyngor y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, a chymerwch unrhyw sbwriel adref gyda chi.