Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i Ddarpariaethau Gofal Plant yn Sir y Fflint o ddydd Llun 30 Mawrth 2020 ymlaen

Published: 26/03/2020

O ddydd Llun, 30 Mawrth, ymlaen bydd Cyngor Sir y Fflint yn newid ei fodel ar gyfer darparu gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed. Bydd y Cyngor yn gweithredu canolfannau ysgol cynradd, uwchradd ac arbennig llai o faint mewn ardaloedd strategol wrth ymyl prif lwybrau traffig gwledig a threfol. 

Bydd 12 canolfan ardal, wedi’u ffurfio gan 22 safle ysgol. Mae adeiladau ysgol wedi’u dewis oherwydd eu lleoliad, maint a chynllun eu hystafelloedd dosbarth, ac i sicrhau bod y ddarpariaeth wedi'i gwasgaru ar draws y sir ac o fewn cyrraedd pawb. 

Bydd ysgolion lleol yn cydweithio i redeg y ddarpariaeth gofal plant yn y ganolfan ardal. Bydd hyn yn eu galluogi i ail-leoli a rhoi athrawon a staff cymorth ar rota i ofalu am y plant. Mae’r model yma hefyd yn caniatáu i’r Cyngor ail-flaenoriaethu gwasanaethau arlwyo a chludiant i'r ysgol i gefnogi'r plant sy'n mynd i'r canolfannau hyn.

Bydd y canolfannau ar agor o 8am tan 5.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd y plant yn derbyn bwyd am ddim - brecwast, cinio a byrbryd ysgafn yn y prynhawn. Bydd y rhan fwyaf o rieni yn gallu mynd a nôl eu plant ond, os nad ydi hyn yn bosibl, bydd y Cyngor yn gallu trefnu cludiant ar gais. Mae trefniadau ar gyfer gwyliau’r ysgol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. 

Gallwn sicrhau rhieni nad yw llai o safleoedd yn golygu y bydd grwpiau mawr o blant gyda’i gilydd.  Bydd gan ysgolion gynlluniau ar waith i gadw plant mewn grwpiau bychain yn yr ystafelloedd dosbarth ac yn ystod yr egwyl ac amser cinio. Byddan nhw’n sicrhau bod y canllawiau cadw pellter yn cael eu dilyn,

Efallai y bydd rhieni a phlant yn pryderu ynghylch mynd i adeilad newydd ac anghyfarwydd. Ond, ble bynnag y bo’n bosibl, bydd plant o’r un ysgol yn cael eu rhoi gyda’i gilydd mewn grwpiau bach fel eu bod yn adnabod rhywun. Bydd staff o bob ysgol leol hefyd yn gweithio yn eu canolfan ardal felly bydd gan y plant wyneb cyfarwydd i'w cysuro.  

Gan fod hon yn ddarpariaeth gofal plant yn hytrach nag addysg statudol, ni fydd canolfannau ar wahân ar gyfer ysgolion Cymraeg nac ysgolion ffydd. Bydd yr arferion arferol o ran diogelu plant yn parhau. 

Bydd pob ysgol yn rheoli ei phroses archebu lle ei hun ar gyfer rhieni fel eu bod yn gwybod pa blant fydd yn mynychu pob dydd, ac i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu. Bydd gofyn i rieni lenwi ffurflen gofrestr syml a nodi’r holl fanylion pwysig. Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni yn uniongyrchol ynglyn â sut i archebu lle. 

Rydym ni’n rhagweld y bydd rhieni yn defnyddio’r ganolfan sydd agosaf atyn nhw ond, os oes canolfan arall yn fwy cyfleus oherwydd teithio, mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r ganolfan honno a derbyn cefnogaeth eu pennaeth ‘cartref’ i wneud hynny.

Ceir rhestr o’r ysgolion sy’n ganolfannau ardal ar waelod y llythyr hwn. 

Os oes gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn, cysylltwch â phennaeth eich ‘ysgol gartref’ sydd wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ac yma i’ch helpu chi.

Mae’r Cyngor yn hyderus mai hwn ydi’r model mwyaf cynaliadwy a chadarn i ddarparu gofal plant sydd wir ei angen, a bydd yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen i wneud y canolfannau yn llwyddiant.  Mae trefniadau ar gyfer gwyliau’r ysgol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Hubs Cym.JPG