Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llacio rheolau masnachu ar y Sul yn Sir y Fflint

Published: 01/04/2020

Er mwyn cynorthwyo siopau bwyd yn Sir y Fflint i ddarparu nwyddau hanfodol i weithwyr allweddol a phobl ddiamddiffyn lleol a’r gymuned ehangach, mae mesurau gorfodi'r ddeddfwriaeth Masnachu ar y Sul wedi'i hatal dros dro yn ystod y sefyllfa argyfyngus bresennol.

Ar hyn o bryd, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i rai siopau mawr – megis archfarchnadoedd –agor ar y Sul am 6 awr yn olynol rhwng 10am a 6pm yn unig. Ni fydd swyddogion y cyngor yn gorfodi hyn bellach sy'n golygu y gall siopau ddechrau masnachu ddwy awr yn gynharach os ydynt yn dymuno manteisio ar y mesur.

Bydd yr oriau masnachu ychwanegol yn ei gwneud yn haws i weithwyr allweddol siopa am fwyd megis staff meddygol, gweithwyr gofal, gweithwyr y gwasanaethau brys a chriwiau casglu gwastraff. Bydd y mesur hefyd yn rhoi mwy o amser i siopau reoli ymweliadau cwsmeriaid yn ystod y dydd, fel y mae llawer yn ei wneud eisoes, fel eu bod yn cadw at gyngor y Llywodraeth ar ymbellhau ac ymddygiad cymdeithasol.

Bydd pob siop a effeithir gan y mesur hwn yn derbyn cyngor a chyfarwyddyd priodol gan swyddogion y cyngor.

Cynghorir preswylwyr i wirio amseroedd ac oriau agor eu siopau lleol cyn teithio oherwydd gall lefelau staffio a rhesymau logistaidd eraill atal siopau rhag agor am oriau ychwanegol.