Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darpariaeth Gofal Plant yn Sir y Fflint yn ystod gwyliau'r Pasg

Published: 03/04/2020

Bydd darpariaeth gofal plant sydd wedi bod yn gweithredu ers dydd Llun, 30 Mawrth, yn parhau yn ystod gwyliau ysgol y Pasg - gan gynnwys Gwyliau’r Banc - ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn. 

Bydd y Cyngor yn parhau i weithredu'r system “canolfan” o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig sydd wedi'u lleoli'n strategol, yn agos at brif lwybrau traffig mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Mae 12 o ganolfannau ardal sy'n cynnwys 22 o safleoedd ysgolion. Dewiswyd adeiladau ysgol oherwydd eu lleoliad, eu maint a chynllun eu hystafell ddosbarth, a hefyd i sicrhau bod y ddarpariaeth ledled y Sir o fewn cyrraedd hawdd.

I gael gwybodaeth am y canolfannau hyn, ewch i'n tudalen Cau Ysgolion.

Bydd cludiant ysgol a phrydau ysgol am ddim yn parhau i weithredu fel y gwnaethant yn ystod yr wythnos a oedd yn dechrau 30 Mawrth. Bydd hyn yn parhau nes bydd rhybudd pellach ac yn cynnwys Gwyliau’r Banc.

Fodd bynnag, gofynnwn, lle bo hynny'n bosibl, i rieni drefnu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer eu plentyn / plant eu hunain i ac o'r Ganolfan y byddant yn ei fynychu. Fodd bynnag, lle nad yw hyn yn bosibl, gellir darparu cludiant.