Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect hanes cymdeithasol y Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae

Published: 29/04/2015

Mae canfyddiadau prosiect hanes cymdeithasol manwl y Cyngor – Atgofion Chwarae Sir y Fflint 1910 - 2014 - wedi eu cyhoeddi ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw chwarae wedi bod erioed i ddatblygiad plant. Maer canfyddiadau hefyd yn dangos nad yw chwarae, fel ymddygiad, wedi newid rhyw lawer yn y ganrif ddiwethaf, ond mae yna ostyngiad yn nifer y llefydd sydd ar gael i blant chwarae. Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Ionawr 2011 a mis Gorffennaf 2014 gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor a bu iddyn nhw gasglu a chofnodi atgofion chwarae trigolion Sir y Fflint. Cafodd yr holiaduron eu llenwi gan dros chwe chant o bobl o bob rhan or sir, a bu i’r tîm ddadansoddi 6,600 o ddarnau o wybodaeth. Roedd atgofion chwarae pobl yn ymestyn or 1920au hyd heddiw. Or atgofion a ddarparwyd gan y cenedlaethau iau, ac yn groes ir hyn yr oedd rhai or oedolion hyn yn eu credu yn eu hymatebion, mae’n ymddangos bod plant yn dal yn gwneud yr un math o bethau. Mae cyfrifiaduron, setiau teledu a ffonau clyfar yma i aros ond, pan ofynnwyd, roedd y plant yn dal yn tynnu sylw at eu hawydd i chwarae yn eu cymdogaethau gydau ffrindiau yn eu hamser hamdden. Maen nhw’n chwilio am antur a chyfleoedd chwarae yn y byd ou cwmpas mewn llu o wahanol ffyrdd. Roedd yr ymgyrch hefyd yn rhan o brosiect rhanbarthol mwy gan elusen NEW Play i gasglu tystiolaeth am y newidiadau sydd wedi digwydd, o fewn cof dyn byw, yng ngallu plant i chwarae. Cafodd y prosiect hefyd gefnogaeth nifer o sefydliadau cymunedol syn ffurfio Rhwydwaith Chwarae ehangach Sir y Fflint. Maer canfyddiadau wedi eu casglu au cyhoeddi gan Chwarae Cymru (yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru). Roedd yr ymatebion yn cynnwys: Fe fyddwn i wrth fy modd pe gallwn smyglo fy wyrion yn ôl i’r cyfnod hwnnw. Roedd bywyd mor syml ac roedd pleser mawr i’w gael dim ond o fod yn fyw. ‘Doedd gennym ni ddim arian, dim sdwff ‘designer’, dim ond cyfeillgarwch cadarn a pharhaol .... y cyfnod gorau un, er ei bod yn adeg y rhyfel.” “Tydi plant heddiw ddim yn cael rhyddid i archwilio a chwarae ar eu pen eu hunain. Mae’n ymddangos bod popeth wedi ei strwythuro.” “‘Obsesiwn llwyr â diogelwch! Mae hyn yn atal creadigedd ac nid yw’n caniatáu ar gyfer archwilio, cydweithio, llunio penderfyniadau ac yn y blaen, sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad yr unigolyn.” “Dyw hon ddim yn ardal sy’n ddigon diogel i adael i blant chwarae’n rhy bell o’r ty ac mae gemau cyfrifiadurol a’r teledu’n chwarae rhan bwysicach yn eu bywydau.” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Yn Sir y Fflint, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd chwarae i bob plentyn a hoffem ddiolch ir holl bobl hynny sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn llwyddiant ysgubol - yn enwedig ein trigolion a gwblhaodd yr holiaduron. Dengys ein canfyddiadau mai’r hyn sydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd yw argaeledd amser, lle chwarae a chaniatáu plant i chwarae fel y mynnon nhw. Roedd atgoffa oedolion o’u profiadau chwarae pan oedden nhw’n blant hefyd yn arf eirioli defnyddiol i gefnogi plant heddiw au hawl i gael amgylcheddau chwarae addas - syn hanfodol ar gyfer eu lles. Am fwy o wybodaeth - ac awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu plant i chwarae fel y mynnon nhw, ewch i www.flintshire.gov.uk/psa.” Am ragor o fanylion, cysylltwch â Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint ar 01352 702456 neu janet.a.roberts@flintshire.gov.uk