Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaredu Gwastraff y Cartref

Published: 08/04/2020

Mae’r Cyngor yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus wrth dderbyn cynigion gan unigolion sy’n honni eu bod yn gweithredu busnesau gwaredu gwastraff. 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn ac yn parhau i leihau’r gwastraff maen nhw’n ei greu ac yn ei waredu’n gywir.   

Fodd bynnag, rydym ni’n gweld mwy a mwy o “ddynion mewn faniau” sy’n honni eu bod yn gweithredu busnesau gwaredu gwastraff dilys ac yn manteisio ar yr argyfwng presennol drwy gynnig mynd â gwastraff pobl am ffi fechan. Nid yw rhai o’r busnesau hyn wedi’u cofrestru na’u hawdurdodi i gymryd gwastraff ac felly, mewn gwirionedd, maen nhw’n anghyfreithiol.

Nid yw’r gyfraith wedi newid ac felly, fel meddiannydd eiddo domestig, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei roi i berson awdurdodedig ei waredu.  

Fel preswylydd, ac yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i chi waredu’ch gwastraff yn gyfrifol. Os ydym ni’n canfod eich gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon, pa wyddoch chi am hynny neu beidio, fe allwch chi wynebu dirwy o hyd at £5,000. Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn cael ei erlyn a bydd yn derbyn dirwy fawr.  

Er ein bod ni’n cydymdeimlo â phreswylwyr sydd â symiau mawr o wastraff yn cronni, mae’n rhaid i ni bwysleisio, er iechyd a diogelwch pawb, bod yn rhaid i chi waredu’ch gwastraff yn gyfrifol neu ddal ar eich eitemau tan mae’r Canolfannau Ailgylchu Cartref ar agor eto ac hyd nes y bydd yr amgylchiadau’n gwella.

Ymddiheurwn am unrhyw anhawsterau achoswyd.