Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl y Gwanwyn 2015

Published: 05/05/2015

Gwahoddir gofalwyr Sir y Fflint sydd dros 50 oed i fynychu gweithdai ysgrifennu creadigol sy’n cael eu cynnal ym mis Mai, fel rhan o ddathliad cenedlaethol o greadigrwydd pobl hyn. Mae Gwyl y Gwanwyn yn gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ledled Cymru yn ystod mis Mai sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer mwy o gyfranogiad gan bobl hyn yn y celfyddydau. Bydd Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) yn cynnal pedwar gweithdy ar gyfer gofalwyr sydd dros 50 oed, ar bedwar ddydd Gwener yn olynol, gan ddechrau ar 8 Mai. Cânt eu gwahodd i fynd ar daith o ddarganfod gyda’r bardd ar gweithiwr cymunedol, Suzanne Iuppa. Thema eu gwaith ysgrifennu fydd ‘Teithiau’. Trwy drafod barddoniaeth a rhyddiaith beirdd ac awduron enwog, a thrwy weithio drwy ymarferion ysgrifennu, byddant yn edrych ar sut y gall y teithiau symlaf drawsnewid ein bywydau a newid ein safbwynt o’r byd. Byddant hefyd yn ymarfer technegau ar gyfer darllen eu darnau gorffenedig yn uchel i gynulleidfa. Bydd yr awduron yn saernïo ac yn golygu o leiaf un gerdd neu ddarn o ryddiaith yr un i’w arddangos yn gyhoeddus yn Llyfrgell yr Wyddgrug, gyda digwyddiad darllen cysylltiedig am 1pm ar 5 Mehefin. Croesewir aelodau or cyhoedd i fynychu. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych - mae llefydd yn brin, felly byddwn yn annog gofalwyr dros 50 oed, syn awyddus i gymryd rhan, i archebu lle cyn gynted ag y gallwch. Mae cyllid a chymorth ar gyfer y prosiect hwn wedi’i ddarparu gan Wyl y Gwanwyn syn rhan o Age Concern, Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint, a Chyfreithwyr Keene a Kelly. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol, Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau, Cyngor Sir y Fflint. Ffôn: 07866 523 601 neu anfonwch e-bost: beth.ditson@flintshire.gov.uk . Delwedd: