Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru – amser cystadleuaeth!

Published: 14/04/2020

Mae Gwasanaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal ymgyrch i drigolion lleol gofnodi’r cyfnod hwn mewn hanes yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd. 

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi lansio ymgyrch i blant ysgrifennu llythyr i ‘blant yn y dyfodol’ er mwyn egluro sut mae’r sefyllfa bresennol wedi newid eu bywydau.   Mae manylion o’r ddwy ymgyrch wedi eu nodi isod.

Life During Lockdown facebook picture WELSH.jpgFy Mywyd yn ystod y Cyfyngiadau Symud

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisiau cofnodi profiadau pobl Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod hanesyddol hwn.

Rydym ni’n cadw archifau er mwyn diogelu cofnodion hanesyddol i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall digwyddiadau, pobl a llefydd a fu. Rydym ni’n gobeithio creu archif wybodaeth a delweddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol er mwyn eu helpu nhw i ddeall sut y bu i argyfwng y coronafeirws effeithio ar gymunedau a bywydau pobl. 

Ydych chi’n hunan-ynysu gartref neu’n mynd i’r gwaith mewn amgylchedd gwahanol neu ansicr? Sut mae’n effeithio ar eich bywyd pob dydd chi? 

Mae arnom ni eisiau clywed am y pethau cadarnhaol yn ogystal â’r pethau heriol ac ansefydlog! Os ydych chi’n cadw dyddiadur neu arnoch chi eisiau cyfrannu cerdd, darlun, llun rydych chi wedi’i beintio neu ffotograff yn dangos eich profiadau chi yn ystod y cyfyngiadau symud, yna rydym eisiau clywed gennych chi! Gall ffotograffau gynnwys lluniau o siopau ar gau, strydoedd gwag, llefydd sydd fel rheol yn ferw o brysurdeb yn dawel iawn neu fywyd gwyllt mewn mannau annisgwyl. 

E-bostiwch eich profiadau/delweddau, gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i: archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych. 

Byddwn yn dewis a dethol y cyfraniadau gorau i ffurfio rhan o gasgliad hanesyddol o atgofion i helpu cenedlaethau’r dyfodol ddeall effaith yr argyfwng ar drigolion gogledd ddwyrain Cymru.  

Dear Future Children WELSH.jpgLlythyr at blant y dyfodol

Mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gystadleuaeth ysgrifennu ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ar gyfer plant oed ysgol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ysgrifenna lythyr, a fydd yn cael ei ddarllen gan blant mewn 100 mlynedd, i ddweud wrthyn nhw sut mae dy fywyd wedi newid ar ôl i argyfwng y coronafeirws dy anfon di gartref o’r ysgol.

• Beth ydych chi’n ei wneud pob dydd? 

• Sut beth ydi bod gartref drwy’r amser a methu gweld eich ffrindiau na’ch teulu estynedig?  

• Wyt ti’n gorfod mynd i’r ysgol ac, os felly, ydi hi’n dawel ofnadwy yno? 

• Sut mae dy deulu yn ymdopi â gweithio gartref neu’n mynd allan i wneud gwaith hanfodol?  

• Yn fwy na dim, dyweda wrth blant y dyfodol am y pethau rwyt ti’n eu colli ac yn eu mwynhau fwyaf! 

• Cofia gynnwys llun i ddangos sut beth ydi byw yn ystod y cyfnod hanesyddol a rhyfedd hwn!  

Bydd pob llythyr yn cael ei gynnwys yn Archif ‘Llythyr at Blant y Dyfodol’ ac yn cael ei gadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu darllen. Bydd yr enillydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 a bydd y llythyr yn cael ei rannu ar-lein.

Yn yr un modd, e-bostiwch eich llythyrau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, i:

archives@flintshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint neu i archives@denbighshire.gov.uk os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych.