Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaredu Hancesi papur a Gwastraff Personol

Published: 14/04/2020

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn erfyn ar drigolion i beidio â rhoi hancesi papur budr yn rhydd yn y bagiau ailgylchu neu’r cynwysyddion. Mae ychydig o bobl yn dal i anwybyddu’r cyngor iechyd a diogelwch pwysig hwn ac yn gadael bagiau a chynwysyddion ailgylchu yn llawn hancesi papur budr i’w casglu.

Ni chaiff unrhyw gynwysyddion ailgylchu sy’n cynnwys hancesi budr neu lân yn cael eu casglu mwyach.  Caiff sticeri eu rhoi ar unrhyw gynwysyddion ailgylchu sy'n cynnwys hancesi papur a bydd y rhain yn cael eu gadael wrth ymyl y palmant neu yn y man casglu. Mae'r sticer yn gofyn i'r trigolyn dynnu'r hancesi papur a'u gwaredu'n gywir yn y bin du (gwastraff cyffredinol).  

Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i gynorthwyo gweithwyr i reoli'r niferoedd ychwanegol o ddeunyddiau ailgylchu a gwastraff sy'n cael eu gadael i'w casglu, drwy ddidoli eu hailgylchu yn gywir.  I ddiogelu ein staff sy’n darparu’r gwasanaeth hanfodol hwn, gofynnir i drigolion ddilyn y canllawiau hyn:

  • PEIDIWCH â rhoi unrhyw hancesi papur, llieiniau tafladwy na masgiau (os ydych chi’n eu gwisgo) yn y cynwysyddion ailgylchu.  Dylech eu gwaredu yn eich bin du YN UNIG
  • Os ydych chi’n hunan-ynysu gan fod gan rhywun sy’n byw gyda chi symptomau firol, dilynwch y canllawiau cenedlaethol, rhowch eich gwastraff i’r ochr am o leiaf 72 awr cyn ei roi yn eich bin gwastraff cartref (du) fel arfer.
  • Sicrhewch fod eitemau ailgylchu fel gwydr, caniau a phlastigau yn cael eu golchi’n drylwyr a’u sychu cyn eu rhoi allan i’w casglu. 
  • Dylech lanhau handlenni’r biniau / cynwysyddion cyn eu rhoi allan i’w casglu. 
  • Peidiwch ag anghofio golchi eich dwylo cyn i chi roi eich bin a’ch cynwysyddion ailgylchu allan, ac eto yn syth ar ôl i chi ddod â nhw’n ôl i mewn.