Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Cymorth Gofal Plant COVID-19 (C-CAS) Sir y Fflint

Published: 16/04/2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cynnig Gofal Plant Cymru, sy’n rhoi 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar am ddim i blant 3 a 4 oed cymwys, yn cau ar gyfer newydd-ddyfodiaid yn ystod tymor yr haf. Mae’r cynllun hwn ar gau er mwyn ei ddefnyddio i helpu gweithwyr allweddol gyda’u costau gofal plant ac i gefnogi plant diamddiffyn yn ystod yr argyfwng presennol.   

Mae system Cynllun Cymorth Gofal Plant Covid-19 (C-CAS) Sir y Fflint bellach ar gael ar gyfer gweithwyr allweddol yma.

Mae rhieni yn gymwys i dderbyn gofal plant wedi’i ariannu os ydynt yn unig riant ac yn weithiwr allweddol, os yw’r ddau riant yn weithwyr hanfodol neu os yw un rhiant yn weithiwr hanfodol a’r rhiant arall yn methu gofalu am y plentyn/plant gartref am resymau dilys. Os oes ar rieni angen cymorth i ddewis darparwr fe ddylen nhw gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar fisf@flintshire.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein gwefan yma