Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dragons’ Den Cymru – Dydd Gwener 15 Mai

Published: 30/04/2015

Mae Dragon’s Den Cymru Sir y Fflint yn ei ôl – ac rydym ni’n annog darpar entrepreneuriaid i gofrestru. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim, syn cael ei drefnu gan Glwstwr Dwyrain Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, yn cael ei gynnal ar Gampws Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy ddydd Gwener 15 Mai, o 10am tan 2pm. Maen gyfle i ddarpar entrepreneuriaid gyflwyno eu syniadau i entrepreneuriaid busnes llwyddiannus syn awyddus i fentora a chefnogi busnesau newydd yn Sir y Fflint. Y Dreigiau sy’n barod i gynnig eu cefnogaeth yw Askar Sheibani, Prif Swyddog Gweithredol Comtek yng Nglannau Dyfrdwy, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr Comtek, Adam Butler o Easy Online Recruitment a Mike Scott o The Group / Llew Coch Marchwiail. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Rydw i’n annog unrhyw un sydd eisiau bod yn fos arnyn nhw eu hunain, neu sydd eisiau cymorth i ddod yn entrepreneur, i ddod draw i ddigwyddiad Dragons’ Den Cymru syn cael ei drefnu gan Gymunedau yn Gyntaf. Maen gyfle gwych - maer Dreigiau i gyd yn berchenogion busnes lleol ac os ydyn nhw’n credu bod gan eich syniad chi botensial yna byddan nhw’n cynnig eich mentora ar sail un-i-un am chwe mis.” Yn gweithio ochr yn ochr â digwyddiadau Dragons’ Den mae Clwb Menter Sir y Fflint, ac mae aelodau’r clwb yn entrepreneuriaid o wahanol oedrannau ac ar wahanol gamau busnes. Mae yna lawer o wybodaeth ar gael am ddim yn ogystal â sgyrsiau gan siaradwyr ysbrydoledig o nifer o sefydliadau gan gynnwys sefydliadau addysg uwch a phellach. Bydd Tîm Busnes Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru hefyd wrth law i roi cyngor a chefnogaeth. Gallwch fynychu’r clwb am ddim ac mae’r aelodau yn cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener, o 10am tan 12.30pm, ar Gampws Cymunedol John Summers, Chester Road East, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE. Dywedodd Askar Sheibani, Cefnogwr Entrepreneuriaeth Busnes Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Comtek, cwmni trwsio a chefnogi telathrebu: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n cynnal Dragon’s Den arall. Mae cyfoeth o dalent a syniadau yn Sir y Fflint ac rydym ni eisoes wedi profi, gydar digwyddiadau blaenorol, y gall anogaeth aelodau mwy sefydledig or gymuned fusnes arwain at lwyddiant ysgubol. Mae Sir y Fflint eisoes wedi dangos ei fod yn un o’r rhanbarthau economaidd mwyaf bywiog drwy ddyblu nifer y busnesau newydd o fewn blwyddyn. Yn fwy na hynny, wrth i ni barhau i gynyddu nifer y busnesau ffyniannus yn y gymuned, maer twf economaidd sy’n deillio yn talu ar ei ganfed ac mae Sir y Fflint yn prysur ddod yn lleoliad fwyfwy deniadol i fusnesau.” Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad Dragons’ Den neu am Glwb Menter Sir y Fflint, cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu e-bostiwch beverly.moseley@flintshire.gov.uk.