Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Well-Fed yn gwneud pethau da

Published: 22/04/2020

Mae Well-Fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Clwyd Alyn a CanCook - mae’n gwmni bwyd sydd wedi ymrwymo i fwydo pawb yn dda.  

Pan fydd pobl yn llwglyd ac angen edrych ar ôl eu hunain yn wyneb feirws sy’n bygwth bywyd, mae arnyn nhw angen deiet iach; deiet sy’n gallu digoni eu newyn a chefnogi eu system imiwnedd.

Yr wythnos ddiwethaf danfonodd Well-Fed 3000 o brydau, 200 o fagiau caserol araf a thros 100 o focsys hanfodion, i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint yn rhad ac am ddim. Pob wythnos yn ystod y 12 wythnos nesaf, bydd Well-Fed yn gwneud yr un fath ac yn sicrhau bod preswylwyr mewn angen, preswylwyr sy’n hunan-ynysu a methu mynd allan a phreswylwyr ein lloches nos yn derbyn bwyd dda a ffres.

Mae gwasanaeth Well-Fed yn debyg iawn i wasanaeth ‘pryd ar glud’ - ond ar newydd wedd. Gan weithio’n agos iawn gyda staff Cyngor Sir y Fflint mae'r gwasanaeth yn darparu bwyd da a ffres, heb ychwanegion, ac yn defnyddio cynhwysion lleol a chynaliadwy. Nod Well-Fed ydi “cysylltu pobl drwy fwyd da” felly yn ogystal â bwydo preswylwyr mewn gofal a phreswylwyr sy’n byw ar eu pen eu hunain mae’r gwasanaeth hefyd yn mynd i’r afael â thlodi bwyd. Mae maint a graddfa ymateb Covid-19 Well-Fed mor fawr nes ei fod yn unigryw i’r DU.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â 01352 752121.

OUR MEALS Welsh logo.jpg         tweet 22 04 20.jpg