Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymorth i fusnesau

Published: 22/04/2020

Mae busnesau bach yn chwarae rhan hollbwysig yn economi’r sir ac mae llawer ohonyn nhw'n chwilio am gymorth ariannol ac arweiniad yn ystod y cyfnod ansicr hwn. 

Mae ar y Cyngor eisiau gwneud yn siwr bod busnesau bach Sir y Fflint, yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw’n talu trethi busnes, yn ymwybodol o gymorth grant Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae manylion y grant hwn ar gael ar wefan Busnes Cymru, ynghyd â gwybodaeth am fathau eraill o gymorth sydd ar gael: https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy.

I dderbyn cefnogaeth yn lleol gall fusnesau fynd i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Advice-and-Guidance/COVID-19-Cyngor-i-fusnesau.aspx neu gysylltu â thîm Datblygu Busnes y Cyngor ar Business.dev@flintshire/gov.uk.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio offeryn canfod cymorth sy’n helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ganfod y cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw yn ystod yr argyfwng presennol. Mae’r offeryn hwn ar gael yn https://www.gov.uk/business-coronavirus-support-finder.