Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i Well-Fed

Published: 28/04/2020

Mae Well-Fed, y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Clwyd Alyn a Can Cook, yn profi i fod yn boblogaidd iawn ymysg eu cwsmeriaid! 

Ymateb Well-Fed i Covid-19 yw’r mwyaf o’i fath yn y DU.  

Bob wythnos, mae Well-Fed yn cyflenwi prydau, bagiau ar gyfer y crochan araf a bocsys diogelwch yn rhad ac am ddim i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint - i sicrhau fod trigolion sydd mewn trafferthion, trigolion sy’n hunan-ynysu ac yn methu â mynd allan a thrigolion ein lloches nos yn derbyn bwyd ffres o ansawdd uchel. 

Yn dilyn y pythefnos cyntaf, rydym wedi derbyn nifer o negeseuon diolch, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth y mae Well-Fed yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod ansicr hwn – dyma sampl o’r sylwadau yr ydym wedi’u derbyn:

  • “Rwy’n hynod ddiolchgar i’ch gwasanaeth am y prydau a’r cynnyrch gwych yr ydych yn eu cyflenwi i mi a’m partner ... Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am y pecyn bwyd a roddwyd i ni, roedd yn hynod flasus. DIOLCH O GALON I CHI.”

  • “Diolch am y pecyn bwyd a gefais gennych ... ac am yr holl waith caled rydych yn ei wneud i ddarparu’r gwasanaeth cyflenwi pecynnau bwyd.”

  • “Rwy’n gwerthfawrogi’r bwyd a dderbyniais gan y cyngor heddiw, rydych wedi gwneud fy niwrnod i.”

  • “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor falch a diolchgar ydw i o dderbyn y cymorth hwn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi.”

  • “Diolch o galon i chi am eich gwaith yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Mae wedi bod o gymorth mawr imi, ac rwy’n ei werthfawrogi’n arw. Diolch i chi am barhau i weithio.  Cadwch yn ddiogel!”

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01352 752121. 

OUR MEALS Welsh logo.jpg       

   

IMG_2212.JPG
IMG_2215.JPG IMG_2218.JPG