Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad Cymunedol
Published: 09/05/2014
Caiff cynigion drafft terfynol adolygiad sy’n ymdrin â threfniadau etholiadol
cynghorau tref a chymuned eu hystyried yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth
(13 Mai).
Mae Adolygiad Cymunedol Cyngor Sir y Fflint wedi cynnwys dau gam ymgynghori â
34 o gynghorau tref a chymuned a phartïon eraill sydd â diddordeb.
Mae’r cynigion yn argymell newidiadau i 20 o’r cynghorau, gan gynnwys
newidiadau i ffiniau allanol a mewnol a nifer y cynghorwyr tref a chymuned sy’n
cynrychioli wardiau, ac maent yn enwi’r wardiau newydd a gaiff eu creu. Bydd 14
o gynghorau’n parhau fel y maent.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i adolygu trefniadau etholiadol er mwyn darparu
llywodraeth leol sy’n effeithiol ac yn gyfleus i faint y boblogaeth ym mhob
ardal.
Pan gytunir ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer y newidiadau i ffiniau
mewnol, byddant yn
ymddangos ar wefan y Cyngor. Bydd y newidiadau’n dod i rym erbyn yr etholiadau
lleol a gynhelir yn 2017.
Bydd adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol Cymru yn argymell newidiadau i rai ffiniau allanol saith tref a chymuned,
lle nad oes gan y Cyngor y pwerau i wneud y newidiadau ei hun.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Mae’r Adolygiad Cymunedol wedi bod yn ddatblygiad ar y cyd rhwng Cyngor Sir y
Fflint a’r cynghorau tref a chymuned. Drwy gydweithio a defnyddio eu gwybodaeth
leol, rydym wedi llwyddo i lunio cynlluniau sydd o fudd i’r ardal gyfan. Mae’r
broses wedi gweithio’n dda, ac mae’r newidiadau yn cyd-fynd â hunaniaeth
gymunedol y trefi a’r cymunedau.”