Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid i wella band eang

Published: 05/05/2020

Mae Swyddog Digidol newydd Cyngor Sir y Fflint a Wrecsam, a ariennir gan Cadwyn Clwyd, wedi bod yn llwyddiannus wrth gynorthwyo busnes o Sir y Fflint i gael arian grant i wella band eang ar gyfer eu heiddo.  

Cysylltodd Premier Vend yng Nglannau Dyfrdwy gyda Michael Dugine am gyngor gan eu bod yn newid i brotocol llais dros y rhyngrwyd ac yn cael trafferth gyda chyflymder araf y rhyngrwyd.  

Cynghorodd Michael nhw ynglyn â dewisiadau i wella’r cyflymder drwy ddefnyddio Grant Llywodraeth Cymru Allwedd Band Eang Cymru er mwyn iddo fod yn fwy fforddiadwy iddynt.  Mae hyn wedi helpu’r busnes i wella cyflymder band eang yn ogystal ag aros yn y Sir ar ôl ystyried symud i ardal well o ran band eang.

Dywedodd Darren Herbert o Premier Vend: “Mae’r system 4G newydd wedi ei gosod heddiw ac mae’n gweithio’n wych. Alla i ddim credu i ni fod mor hir cyn gwybod am y grant hwn a’r system 4G. Gallaf ddweud yn sicr mai diolch i chi y byddwn ni’n anghofio cynlluniau i adleoli ein busnes i Swydd Gaer ac yn aros yn ein lleoliad presennol yng Nglannau Dyfrdwy. Diolch yn fawr iawn am eich cymorth a daliwch ati gyda’r gwaith da. Dwi’n siwr y byddwch o fudd i fusnesau bach ar draws Gogledd Cymru.”

Cyfeiriad e-bost Michael am fwy o wybodaeth yw Michael.dugine@wrexham.gov.uk