Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Apêl Bocs Esgidiau’r Enfys 

Published: 06/05/2020

Rainbow-Shoebox-Appeal_cfb7132510e3129494434bb90d87fbba.jpgAllwch chi roi bocs o lawenydd i blant diamddiffyn yn Sir y Fflint? 

Mae Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio i roi ychydig o lawenydd a hapusrwydd i blant diamddiffyn o bob oedran yn Sir y Fflint sydd wedi cael eu heffeithio gan Bandemig COVID 19. Mae’r theatr yn gofyn i bobl roi bocsys esgidiau sydd yn llawn pethau hwyliog a lliwgar i wneud y byd yn le ychydig mwy llachar i blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint. 

“Mae hi’n gyfnod eithriadol o heriol ac anodd i blant diamddiffyn yng ngogledd Cymru” meddai Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol y theatr, “felly, ochr yn ochr â’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol gwych yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym ni’n ceisio dod â phobl ynghyd i wneud bocsys esgidiau sydd yn llawn pethau danteithion a gweithgareddau i helpu’r bobl ifanc trwy’r cyfnod o ansicrwydd.”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gydweithio â’r Theatr i lansio’r apêl gwych yma. Mae’n ffordd ffantastig i ddod â chymunedau at eu gilydd, gan gynnig cyfle i bobl o bob oedran wneud rhywbeth anhygoel a gwneud gwahaniaeth mawr i gymaint o blant. 

Mae’r theatr yn gofyn i bobl lenwi bocs esgidiau gyda danteithion, byrbrydau, teganau, gemau, celf a chrefft, hadau neu lyfrau a’u gollwng nhw yn y theatr ar dydd Iau 14 Mai – gan drefnu amser penodol i’w gollwng a dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol drwy’r amser. O’r theatr fe gaiff y bocsys eu rhoi mewn cwarantin yna eu sortio i sicrhau eu bod yn ddiogel, cyn cael eu dosbarthu i blant diamddiffyn yn Sir y Fflint. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: theatrclwyd.com/rainbowshoebox.