Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arhoswch adref

Published: 07/05/2020

Dros benwythnos gwyl y banc mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i osgoi teithio’n ddiangen ac yn ‘aros adref’. 

Trwy ddilyn y cyngor hwn, gallwn helpu i ‘ddiogelu’r GIG ac achub bywydau’. 

Mae mwyafrif o bobl yn bod yn ystyriol o eraill ac yn dilyn y cyngor hwn, fodd bynnag gyda gwyl y banc yn agosáu, mae perygl y bydd pobl yn ceisio ymgynnull, mewn grwpiau neu mewn mannau agored cyhoeddus. 

Mae ardaloedd yn Sir y Fflint lle mae adroddiadau blaenorol o bobl yn ymgynnull, gan gynnwys Parc Gwepra yng Nghei Connah, yn parhau i gael eu monitro gan Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r prif ffyrdd i mewn ac allan o’r Sir hefyd yn cael eu monitro a gall deithwyr gael eu stopio a’u cwestiynu gan yr Heddlu.

Mae’r meysydd parcio canlynol yn parhau i fod ar gau gan fod pobl wedi bod yn ymgynnull ynddynt o’r blaen:

• Dock Road, Cei Connah 

• Castell y Fflint

• Gorsaf y Bad Achub, y Fflint

• Pont Droed Saltney Ferry

• Dock Road, Maes Glas 

• Golygfan Gwaenysgor

Mae Maes Parcio’r Goleudy, Talacre hefyd ar gau gan y perchennog.

Dylid defnyddio mannau agored a llwybrau cyhoeddus mewn modd cyfrifol a dylid cadw pellter cymdeithasol bob amser wrth ymarfer corff. Os ydych allan ar eich beic, yn cerdded y ci, neu’n mynd am dro neu’n rhedeg, cofiwch ‘aros yn lleol’. 

Byddwch yn ystyriol o berchnogion tir wrth groesi llwybrau ar eu tir wrth ddefnyddio hawliau tramwy a chofiwch;

• Fynd ar eich pen eich hun neu gydag aelodau eich aelwyd

• Bod yn ymwybodol bod pobl yn cyffwrdd gatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn aml felly dylid dilyn canllawiau hylendid 

• Peidio rhoi cynnig ar weithgareddau newydd neu sy’n peri risg – ‘aros yn ddiogel’ 

• Dilyn y Cod Cefn Gwlad 

• Wrth ddiystyru’r rheolau hyn ni fydd gan y Cyngor ddewis ond cau’r llwybr dros dro.

Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r nifer o leoliadau gwych mae ein sir yn ei gynnig unwaith i’r cyfyngiadau presennol gael eu llacio.