Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llety Gwyliau

Published: 11/05/2020

Mae Gwasanaethau Diogelu Busnes a’r Gymuned Cyngor Sir y Fflint yn cymell gwestai, parciau gwyliau, safleoedd gwersylla a holl ddarparwyr llety gwyliau eraill i weithredu’n gyfrifol a chynorthwyo i chwarae eu rhan i ddiogelu ein cymunedau a gwasanaethai GIG lleol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r rheoliadau’n glir y dylai holl lety gwyliau, gan gynnwys safleoedd gwersylla a pharciau carafán fod wedi cau ers 26 Mawrth. Rhaid iddynt barhau ar gau tan y dywedir yn wahanol, oni bai bod cais neu esemptiad penodol wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru neu gyngor lleol. 

Rhaid i unrhyw ddarparwr llety yn Sir y Fflint sydd am gynnig llety i weithwyr allweddol ofyn am awdurdodiad gan y Cyngor trwy lenwi a chyflwyno ffurflen Cais am Lety Gweithiwr Allweddol. Dylai unrhyw fusnes sydd eisoes yn darparu llety i weithwyr allweddol hysbysu'r Cyngor cyn gynted â phosibl, gan ddefnyddio'r un cyfeiriad cais.

Ni ddylai unrhyw lety gwyliau, o dan unrhyw amgylchiadau, ddarparu ar gyfer ymwelwyr yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn. Bydd unrhyw unigolyn neu fusnes nad ydynt yn cydymffurfio yn cyflawni trosedd, ac yn destun Rhybudd Cosb Benodedig, Rhybudd Gwahardd neu erlyniad.

Fodd bynnag, gall fusnesau hysbysebu ar gyfer archebion llety gwyliau yn y dyfodol unwaith fydd y cyfyngiadau presennol wedi ymlacio, ond rhaid iddynt barhau ar gau tan i’r Llywodraeth ddweud y cânt ail-agor. 

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am y ffordd mae llety gwyliau yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, cysylltu â’r Cyngor gan ddefnyddio: covidaccommodation@flintshire.gov.uk