Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Gwybodaeth am Ailagor

Published: 14/05/2020

Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd pob un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint yn ailagor ddydd Mawrth, 26 Mai 2020. Bydd y pum canolfan ar agor rhwng 9am ac 8pm bob dydd.

Roeddem yn awyddus iawn i ailagor ein canolfannau gan eu bod yn darparu gwasanaeth pwysig i’n preswylwyr. Bu’n rhaid cau pob canolfan yng Nghymru ym mis Mawrth gan nad oedd teithio i’r canolfannau - i waredu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu - yn cael ei ystyried yn hanfodol dan reoliadau brys y llywodraeth.  

Rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ein cynlluniau i ailagor ein safleoedd, ochr yn ochr â chynghorau eraill yng Nghymru, gan geisio ailagor erbyn diwedd mis Mai. Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau i ganiatáu cludiant cyhoeddus i ganolfannau. Mae hyn yn golygu bod modd i ni rwan ddechrau arni go iawn gyda’n cynlluniau i ailagor.   

Bydd y rhan fwyaf o gynghorau yn ailagor eu canolfannau tua’r un pryd ac efallai y bydd rhai yn agor yn gynt. Dydyn ni ddim mewn sefyllfa i agor yn gynt gan ein bod ni wedi adleoli’r timau sy’n gweithio yn y canolfannau i helpu gyda’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd sy’n cael ei gynnal dros dro’r wythnos hon a’r wythnos nesaf. 

Gall ailagor y canolfannau ar benwythnos gwyl y banc arwain at giwio mawr, a gall hynny fod yn rhwystredig i gwsmeriaid yn ogystal â gweithwyr. Drwy ailagor ar ddydd Mawrth mae’n fwy tebygol y bydd y galw yn cael ei wasgaru ar draws yr wythnos - gan osgoi ciwiau hir a all arwain at dagfeydd ar y briffordd a gwrthdrawiadau traffig. 

Bydd yna alw mawr yn ystod yr wythnos gyntaf ac felly rydym ni’n galw ar bawb i gydweithredu ac osgoi teithio i’r canolfannau yn ystod y dyddiau cyntaf os nad oes wir angen gwneud hynny. 

Mae’n rhaid i ni ddiogelu'r cyhoedd a gweithwyr ac felly byddwn yn rhoi’r mesurau diogelwch canlynol yn ar waith: 

  • Cydymffurfio’n llawn â rheoliadau iechyd a diogelwch a chanllawiau’r llywodraeth 
  • Mannau glanweithdra priodol ar gyfer defnyddwyr a gweithwyr 
  • Mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer cwsmeriaid a gweithwyr - ni fydd cymorth ar gael i dynnu na chario deunyddiau o gerbydau cwsmeriaid 
  • Systemau rheoli traffig - nifer cyfyngedig o gerbydau fydd yn cael dod i mewn ar yr un pryd

Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar gyda’r rheolau newydd hyn a gweithio efo ni i gadw pawb yn saff. 

Rydym ni’n rhagweld y bydd galw mawr am y gwasanaeth yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf a bydd yn rhaid rheoli’r canolfannau yn ofalus i sicrhau diogelwch preswylwyr a gweithwyr.   

I helpu i leihau’r galw ar y canolfannau rydym ni wedi ailgychwyn y casgliadau gwastraff gardd - am gyfnod o bythefnos yn unig o ddydd Llun 11 Mai tan ddydd Sadwrn 23 Mai - ar gyfer preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn 2019 neu 2020. Ceir rhagor o wybodaeth am y casgliad untro hwn ar dudalen Casgliadau Gwastraff Gardd ein gwefan. Rydym ni’n bwriadu ailgynnig y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn fwy rheolaidd cyn gynted â phosibl. 

Bydd rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r canolfannau ar gael yr wythnos nesaf.