Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi busnesau

Published: 15/05/2020

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod nhw’n derbyn y grantiau a’r cymorth mae ganddynt hawl iddynt mor gyflym â phosib’.  Yr wythnos yma, dyma sydd wedi’i ddyfarnu:

Grantiau:

Cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu’r wythnos yma:                102 – 1.1M 

Cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu:                                   2,274- £27.4M

Cymorth i Fanwerthwyr:

Cyfanswm y Rhyddhad a ddyfarnwyd yr wythnos yma:                       8 – 120k

Cyfanswm y Rhyddhad a ddyfarnwyd:                                         1,135 - £15.1M

Os nad yw'ch busnes wedi gwneud cais eto, llenwch y ffurflen ar-lein ar siryfflint.gov.uk/ardrethibusnes.

Mae grantiau cymorth i fusnesau yn cael eu dyfarnu fel ‘cymorth de minimis’ o dan Reoliadau CE. Mae’r Rheoliadau ‘de minimis’ yn caniatáu i fusnesau dderbyn hyd at £200,000 o gymorth mewn cyfnod o dair blynedd.   Mae hyn yn cynnwys y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol.  Gofynnir i fusnesau sy’n derbyn grant nawr lenwi ffurflen datgan cymorth gwladwriaethol ar-lein.