Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno arian i elusennaur Cadeirydd

Published: 12/05/2015

Mae Cadeirydd rhadlon Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, wedi cyflwyno sieciau gwerth dros £20,000 i’w helusennau dewisedig. Ers cael ei hethol ym mis Mai y llynedd, mae wedi cefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon a Chanolfan Ymchwil Canser y Prostad. Cyflwynodd y Cynghorydd Diskin sieciau am £10,000 i gynrychiolwyr o’r ddwy elusen yn Neuadd y Sir yr Wyddgrug, gan ddod â blwyddyn lwyddiannus iawn fel cadeirydd i ben. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae hefyd wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer lymphoma nad yw’n Hodgkin. Bydd siec am £350 hefyd yn cael ei rhoi i Gyfeillion Cerddoriaeth Ieuenctid Sir y Fflint. Meddai’r Cynghorydd Diskin: Rwyf mor falch ac wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i godi cymaint o arian i’r tair elusen sydd mor agos at fy nghalon. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth arbennig yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd – rwyf wedi cael blwyddyn hyfryd.” Capsiynau: FBH1936: Yn y llun gyda’r Cynghorydd Glenys Diskin mae Cynrychiolwyr o Sefydliad Prydeinig y Galon: Sion Edwards, Pennaeth Rhanbarthol Dros Dro Codi Arian Cymunedol Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a’r Gorllewin a Dora Jones a Carolyn Watts. FBH1943: Yn y llun gyda’r Cynghorydd Glenys Diskin mae Paul Bennett, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Canolfan Ymchwil Canser y Prostad.