Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Gwepra ar BBC 2 Wales!

Published: 14/05/2015

Parc blaenllaw Cyngor Sir y Fflint fydd canolbwynt rhaglen hanner awr ar BBC 2 Wales ddydd Iau (14 Mai). Mae Iolo’s Great Welsh Parks yn gyfres ar y BBC sy’n tynnu sylw at bedwar o barciau ac yn edrych ar eu bywyd gwyllt dros y tymhorau newidiol. Cafodd Parc Gwepra, Cei Connah, ei geidwaid, ei wirfoddolwyr a’i fywyd gwyllt, eu ffilmio drwy gydol 2014. Ymunodd y cyflwynydd Iolo Williams âr Ceidwaid Cefn Gwlad wrth iddynt arolygu madfallod dwr cribog prin; bu hefyd yn mwynhau chwilio am foch daear a chael profiad agos gyda llygoden y coed. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar BBC 1 Wales ym mis Ionawr. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Maen wych bod Parc Gwepra unwaith eto yn cael ei arddangos yn y ffordd hon. Os byddwch yn collir rhaglen, bydd ar gael ar BBC iPlayer am wythnos ar ôl ei darlledu.” Bydd y rhaglen ar gael yma: http://www.bbc.co.uk/programmes/b04yldfq