Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd Newydd

Published: 12/05/2015

Heddiw (Dydd Mawrth 12 Mai) mae Cyngor Sir y Fflint wedi ethol Cadeirydd sef y Cynghorydd Ray Hughes. Mae’r Cynghorydd Ray Hughes wedi cynrychioli Coed-llai ers 2008. Roedd yn gynghorydd i Gyngor Bwrdeistref Delyn ac mae hefyd wedi bod yn gynghorydd cymuned ers dros 40 o flynyddoedd. Mae’n briod â Gwenda ac mae ganddo dri o feibion. Mae’r Cynghorydd Hughes yn gyn saer ac mae’n cymryd rhan weithredol yn ei gymuned leol. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn pêl-droed a chwaraeon yn gyffredinol. Yr Is-gadeirydd dros y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Peter Curtis. Mae’r Cynghorydd Curtis yn cynrychioli Treffynnon Ganolog ac mae wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1995. Ef oedd Cadeirydd y Cyngor yn 2005/6. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Treffynnon ac mae wedi bod yn Faer dair o weithiau. Mae’r Cynghorydd Curtis yn byw yn Nhreffynnon, mae’n briod â Jenny ac mae ganddo ddau o blant. Llun: