Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen tai arloesol yn symud yn ei blaen

Published: 13/05/2015

Bydd rhaglen tai ac adfywio arloesol Sir y Fflint - a fydd yn gweld tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y Sir - yn cymryd cam mawr ymlaen yn y Cabinet ddydd Mawrth (19 Mai). Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint yn uchelgeisiol ac yn cynnwys codi 500 o gartrefi newydd yn y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf - 200 ohonynt yn dai Cyngor. Y cam nesaf yw penodi partner datblygu ar gyfer y prosiect ac, yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, bydd y cynigydd a ffafrir yn cael ei gyhoeddi. Bydd hyn yn nodi camau olaf y broses gaffael fawr. Y cynigydd a ffafrir fydd y cwmni a gafodd y sgôr uchaf yn ystod y broses gaffael; bydd y cwmni gyda’r ail sgôr uchaf yn cael ei benodi fel y cynigydd wrth gefn. Bydd cymeradwyaeth y Cabinet yn caniatáu cwblhau’r broses gaffael, gydar cynigydd buddugol yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Unwaith y bydd y contract wedi ei ddyfarnu, a phartner datblygu yn ei le, bydd y rhaglen SHARP yn dechrau ailddatblygu’r tri safle (dau safle trefol ac un safle gwledig), sef safle hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi’u clirio i wneud lle i oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei Connah, a safle gwledig yng Nghoed-llai. Mae’r cynigwyr hefyd wedi seilio eu cynigion ar Safon Tai Sir y Fflint sydd wedi ei datblygu mewn ymgynghoriad â thenantiaid. Bydd y safon yn llywio cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys cysondeb ac ansawdd da o ran edrychiad mewnol ac allanol y tai, effeithlonrwydd ynni a pharcio digonol. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Maen gyffrous iawn gweld rhaglen SHARP yn datblygu mor dda. Rydym ni rwan yn agos iawn at benodi partner datblygu, a fydd yn gweithio gydar Cyngor i gyrraedd ein nod o ddarparu tai fforddiadwy newydd sydd wir eu hangen yn y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Bydd y rhaglen SHARP yn helpu blaenoriaethau’r Cyngor o ran darparu Cartrefi Cyngor newydd a thai fforddiadwy ar gyfer pobl Sir y Fflint. Bydd y rhaglen yn darparu 500 o gartrefi newydd yn ogystal â mentrau adfywio cysylltiedig a budd cymunedol, heb anghofio am yr holl gyfleoedd gwaith a hyfforddiant lleol.”