Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o wasanaethau bws a gymorthdelir a bws gwaith Glannau Dyfrdwy

Published: 13/05/2015

Bydd adolygiad o wasanaeth cymhorthdal ??bws y Cyngor yn cael ei gynnal gyda hyn, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, i sicrhau bod gwasanaethau bws y Sir yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn gost-effeithiol ac yn diwallu anghenion cymunedau lleol. Bydd yr adolygiad arfaethedig yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth (19 Mai). Mae Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd yn cymorthdalu ??30 o lwybrau bysiau na fyddai fel arall ar gael yn fasnachol. Mae hyn yn costio £1 miliwn i’r Cyngor y flwyddyn. Maer llwybrau a gefnogir fel arfer gan y Cyngor yn llwybrau gwledig ac yn wasanaethau yn gynnar y bore, gydar nos, ddydd Sul, Gwyliau Banc. Maent hefyd yn cymorthdalu rhai gwasanaethau cludiant ysgol, neu wasanaethau drwy bentrefi neu ystadau tai penodol. Maer Cyngor hefyd yn cymorthdalu bws gwaith Glannau Dyfrdwy, syn darparu cludiant yn ôl y galw i alluogi gweithwyr fynd i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae lefelau cymhorthdal?? bws gwaith Glannau Dyfrdwy yn uchel, sef £6 y teithiwr, ac nid ywn gynaliadwy ir Cyngor. Mae nifer y teithwyr ar fws gwaith Glannau Dyfrdwy wedi cynyddun sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r Cyngor or farn y gallair gwasanaeth fod yn wasanaeth wedi ei rhaglennu gydag amserlen a llwybr sefydlog, yn hytrach na gwasanaeth hyblyg a drefnir ymlaen llaw. Bydd y Cyngor yn ymgysylltu â gweithredwyr bysiau masnachol gydar bwriad o gyflwyno a datblygu gwasanaethau bws masnachol newydd ir Parc cyn i’r galw cyfredol am wasanaeth o’r fath leihau. Mae gan y Cyngor drefniadau partneriaeth da gyda chwmnïau bysiau masnachol, syn darparu cysylltiadau cludiant da rhwng trefi ac aneddiadau allweddol. Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithredwyr hyn i annog twf masnachol pellach ar hyd y llwybrau craidd hyn; efallai y gellir darparu rhywfaint o gymorth i sicrhau gwasanaeth cyson o ansawdd uchel syn cysylltur cyrchfannau allweddol gyda gwahanol fannau casglu ar hyd y llwybr. Adnabod y lefel ofynnol o wasanaeth ar bob un or llwybrau craidd fydd elfen gyntaf yr adolygiad, a fydd yn cael ei wneud mewn gweithdy gyda Chynghorwyr Sir a Chynghorau Tref a Chymuned. Lle bydd gwasanaethau bysiau â gymorthdelir ??yn lleihau neu’n cael eu diddymu, bydd y Cyngor yn bwriadu gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i gyflwyno trefniadau cludiant yn y gymuned syn gynaliadwy ac yn cwrdd â blaenoriaethaur Cyngor Sir. Trwy gyflwyno Uned Cludiant Integredig, bydd y Cyngor wedyn yn gallu gweithredu fel gwasanaeth galluogi canolog, gan ddarparu cymorth a chyngor i grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol; bydd ceisiadau yn cael eu gwneud ar gyfer cyllid canolog i ddatblygu cysylltiadau cludiant cymunedol ar isadeiledd sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau cludiant. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Maer adolygiad hwn yn angenrheidiol oherwydd lefel ddigynsail o arbedion ariannol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu gwneud. Byddwn yn gweithion agos gyda chymunedau a phartneriaid lleol i sicrhau bod lefel y cymorth ariannol a roddir yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, a byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth modern ac effeithlon syn gwasanaethu buddiannau Sir Fflint ai thrigolion orau. Os bydd y Cabinet yn cymeradwyor mesurau, bydd elfen ymatebol gwasanaeth bws gwaith Glannau Dyfrdwy yn dod i ben ar 31 Awst 2015. Bydd canlyniadaur adolygiad o gymorthdaliadau ??bws yn cael eu cyflwyno ir Cabinet fis Gorffennaf 2015.