Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eisiau dechrau eich busnes eich hun? Gweithdai Entrepreneur yn Queensferry

Published: 21/05/2015

Mae entrepreneuriaid ifanc yn cael eu gwahodd i fynychu tri digwyddiad entrepreneur cyffrous ym mis Mai a mis Mehefin i’w helpu nhw i gyrraedd eu nodau a dechrau eu busnes eu hunain. Ddydd Gwener 29 Mai a dydd Gwener 12 ac 19 Mehefin, mi fydd yna gyfres o weithdai dilynol ar Gampws Cymunedol John Summers yn Queensferry, o 10am tan 12pm. Maer gweithdai hyn wedi eu trefnu gan Gymunedau yn Gyntaf ac maent yn rhad ac am ddim. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio’n caled i ddarparu cefnogaeth ac wedi ymrwymo i helpu pobl leol sydd eisiau dechrau busnes. “Maer gweithdai ymarferol wedi eu cynllunio ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed, ond mae croeso i bawb eu mynychu. Mae arnom ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd â syniad, felly dewch draw i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. Drwy gyfres o weithgareddau, bydd y gweithdai hyn yn galluogi mynychwyr i ddatblygu a mireinio eu syniadau busnes ac i fagu hyder.” I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Beverly Moseley, Cymunedau yn Gyntaf, ar 01244 846090 neu beverly.moseley@flintshire.gov.uk.