Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gwella 2014 - 2015

Published: 09/05/2014

Dylai drafft o Gynllun Gwella blynyddol Cyngor Sir y Fflint gael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth (13 Mai). Bydd Cynllun Gwella 2014-15 yn cael ei ystyried cyn ymgynghori a’i gyhoeddi’n derfynol fis Mehefin. Gydag wyth prif flaenoriaeth o Amgylchedd, Tai, Byw’n Dda, Tlodi, yr Economi a Menter, Sgiliau a Dysgu, Cymunedau Diogel, a Chyngor Modern ac Effeithlon, mae’r cynllun blynyddol yn helpu’r sefydliad i gyrraedd ei dargedau a datblygu’r meysydd hynny. Roedd uchel bwyntiau cynllun 2013-14 yn cynnwys agor Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, cynllun newydd Gofal Ychwanegol Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Thai Wales and West. Hwn ywr cyntaf oi fath yng Nghymru gyda 15 fflat wediu dylunion arbennig ar gyfrer pobl â dementia. Yn y flwyddyn i ddod, bydd y Cyngor yn ystyried datblygu dau adnodd gofal ychwanegol arall yn Fflint a Threffynnon ar yr un patrwm. Prif flaenoriaeth arall oedd helpu mwy o bobl i fyw yn iach ac yn annibynnol yn eu cartrefi a gwella ansawdd bywyd trigolion. Mae’r rhain yn dal ar y rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo Glannau Dyfrdwy fel canolfan gydnabyddedig uwch weithgynhyrchu ac yn y maes ynni. Ers mis Ebrill 2012, mae 29 o gwmnïau wedi buddsoddi yn yr ardal a bydd Sir y Fflint yn dal i ddatblygu cyfleoedd i fuddsodd yn 2014-15 yn ogystal â chyfarfod ag anghenion hyfforddi a chyflogaeth drwy ddarparu prentisiaethau a chreu swyddi. Mae’r cynllun newydd yn gobeithio sefydlu o leiaf 10 o fentrau cymdeithasol newydd i gynnig lleoliadau gwaith ac i ddatblygu sgiliau. Maer gwaith o ddiweddaru cyfrifiaduron a thechnoleg ddiwifr mewn ysgolion a oedd yng nghynllun y llynedd wedi’i orffen. Eleni, maer Cyngor yn edrych ymlaen at wella darpariaeth addysgu drwy lythrennedd a rhifedd a nifer o gyfleoedd dysgu eraill. Mae amddiffyn pobl rhag tlodi’n uchel ar restr blaenoriaethau’r Cyngor, gyda Diwygio Lles yn bryder penodol. Mae’r Cyngor yn dal i weithio i rwystro digartrefedd, i helpu pobl i hawlior budd-ddaliadau sy’n ddyledus iddyn nhw a helpu i reoli effeithiau Diwygio Lles ar rai o bobl mwyaf bregus y sir. Yn 2014-15, bydd y Cyngor hefyd yn canolbwyntio ar drais yn y cartref a chamddefnyddio sylweddau fel rhan o gadw cymunedau’n ddiogel. Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: ”Mae canllawiau yn y Cynllun Gwella i’n galluogi i gyrraedd ein targedau a gwella bywyd trigolion. Mae rhai o’n blaenoriaethau yn 2014-15 yn cynnwys datblygu Cynlluniau Meistr y Cyngor ar gyfer Canol Trefi i amddiffyn hyfywdra canol trefi Sir y Fflint a chefnogi gweithgaredd economaidd, gwella diogelwch ffyrdd a hygyrchedd rhwng cartrefi, mannau gwaith ac adnoddau hamdden. Mae hefyd yn ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen y cyngor a gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn yr hinsawdd anodd hwn”. Meddai Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Maer cynllun yn ymrwymiad positif iawn gan gyngor syn perfformion hynod o dda. Drwy gyfarfod â thargedaur llynedd rydyn ni wedi dangos gweledigaeth ardderchog a blaenoriaethau clir. Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant 2013-14 i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod.