Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Celf Plant yn dod i Sir y Fflint

Published: 01/06/2015

Wythnos Celf Plant dydd Sadwrn 13 – dydd Sul 21 Mehefin 2015 Yn ystod Wythnos Celf Plant bydd miloedd o blant, eu hathrawon au teuluoedd yn dod i leoliadaur celfyddydau gweledol, ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau ieuenctid a chymunedol ledled y DU, i gael eu hysbrydoli, eu hymgysylltu a’u diddanu gan gelf. Yn Sir y Fflint, gall plant a theuluoedd ymuno â Ruth Thomas a Fakhra Richardson i greu printiau mono hardd i ddathlu Wythnos Celf Plant ar thema ‘Planhigion a Chwilod’. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Maer gweithdai hyn yn addas ar gyfer pob oedran a gallu ond bydd angen i blant o dan wyth oed fod yng nghwmni oedolyn. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau creu printiau i wneud gwaith celf yn seiliedig ar ‘Blanhigion a Chwilod’ mewn lleoliadau amrywiol ledled Sir y Fflint. “Maer holl weithdai am ddim ond maen hanfodol cadw lle gan mai dim ond lle i 12 o blant sydd ym mhob gweithdy.” Dydd Sadwrn 13 Mehefin yn Llyfrgell Cei Connah 10. 00am – 12. 00 canol dydd Archebu Lle: 01352 703730 Dydd Sadwrn 13 Mehefin yn Llyfrgell yr Wyddgrug 1. 30pm – 3. 30pm Archebu Lle: 01352 754791 Dydd Sul 14 Mehefin ym Mharc Gwepra, Cei Conna 10. 30am – 12. 30pm 1. 30pm – 3. 30pm Archebu Lle: 01352 703900 neu 07909 845988 Dydd Sadwrn 20 Mehefin yn Llyfrgell y Fflint 10. 00am – 12. 00 canol dydd Archebu Lle: 01352 703737 Dydd Sul 21 Mehefin yn Nyffryn Maesglas 10. 30am – 12. 30 pm 1. 30pm – 3. 30pm Archebu Lle: 01352 714172 I archebu lle, ffoniwch eich lleoliad dewisol yn uniongyrchol, mae rhifau ffôn i’w gweld uchod. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Celf Plant yn Sir y Fflint anfonwch e-bost i gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk Sylwadau i olygyddion 1. Mae Wythnos Celf Plant yn cael ei rhedeg gan engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel ac fe’i cefnogir gan Children & the Arts ac Ymddiriedolaeth Elusennol DOyly Carte. 2. Fel y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel, mae engage yn angerddol dros gynyddu mynediad, mwynhad a dealltwriaeth y celfyddydau gweledol. Mae engage yn cefnogi’r celfyddydau gweledol ac addysg oriel drwy ddatblygiad proffesiynol ar gyfer cydweithwyr addysg a dysgu ym maes y celfyddydau gweledol gan gynnwys athrawon, artistiaid ac addysgwyr oriel trwy amrywiaeth eang o ymchwil. Mae meysydd ffocws engage yn cynnwys cefnogi orielau yn eu gwaith gyda phobl ifanc ac eirioli i lunwyr polisi. www.engage.org 3. Ewch i www.childrensartweek.org.uk i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y DU, o ddydd Sadwrn 13 i ddydd Sul 21 Mehefin 2015.