Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lladin Sylfaenol ar gyfer Haneswyr Teulu: Wythnos Addysg Oedolion

Published: 27/05/2015

Mae Archifdy Sir y Fflint yn cynnal gweithdy Lladin rhad ac am ddim ddydd Mercher 17 Mehefin 2015 o 10am tan hanner dydd. Oes arnoch chi angen help i ddeall geiriau Lladin mewn Cofrestrau Plwyf ac Ewyllysiau ac ar Henebion a ffynonellau Hanes Teulu eraill? Hoffech chi gyfieithu geiriau ac ymadroddion Lladin syml? Os felly, dewch draw i’n gweithdy am ddim gyda thiwtor Lladin proffesiynol a phrofiadol. Hyn a hyn o le sydd ar gael, felly mae’n rhaid archebu. Ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at: archives@flintshire.gov.uk