Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella gofal diwedd oes yng nghartrefi nyrsio Sir y Fflint

Published: 21/05/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gefnogi Cartrefi Nyrsio lleol au staff, yn eu gwaith wrth ddarparu gofal diwedd bywyd ar gyfer preswylwyr. Mae Chwe Cham i Raglen Llwyddiannus yn rhaglen liniarol a nyrsio diwedd bywyd, ai nod yw atal preswylwyr rhag gorfod cael eu symud o Gartref Nyrsio, gyda staff sydd yn eu hadnabod, mewn i ysbyty, a all fod yn bell i ffwrdd oddi wrth deuluoedd a chyfeillion. Maen galluogi preswylwyr i aros yn eu lleoliad o ddewis gyda staff sydd wedi cael eu hyfforddi i ddiwallu eu hanghenion au dymuniadau unigol. Bu’r grwp cyntaf o nyrsys a gwblhaodd eu hyfforddiant dwys am chwe mis yn dathlu eu llwyddiant yn ddiweddar mewn noson gyflwyno gwobrau a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Parc Beaufort, ger Wyddgrug. Cyflwynodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, y tystysgrifau i bob nyrs a chynrychiolwyr o Gartrefi Nyrsio sydd hefyd wedi ennill yr achrediad. Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin: “Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad i gymryd rhan yn y fenter bwysig hon i gefnogi staff nyrsio lleol i gael mynediad ir hyfforddiant maent ei angen yn y maes arbenigol hwn o ymarfer. Rwy’n gobeithio y bydd yn golygu y gall mwy o deuluoedd yn Sir y Fflint dreulio digon o amser âu hanwyliaid, gyda chefnogaeth gan staff syn eu hadnabod yn dda.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwyn falch iawn or cynllun hwn. Maer rhaglen Sir y Fflint yn bartneriaeth rhwng tîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a thîm diwedd oes Macmillan yn BIPBC. Cafodd ei arwain gan Theresa Richardson, Hwylusydd Gofal Diwedd Bywyd Macmillan yng Ngogledd Cymru, ac fe gydlynwyd gan Sarah Dickinson, syn nyrs yn Ysbyty Cymuned Treffynnon. Gwahoddwyd pob Cartref Nyrsio yn Sir y Fflint i ymuno âr rhaglen. Hyd yn hyn, mae chwech wedi cael eu hachredu, ynghyd â deuddeg nyrs. Llongyfarchiadau i bob nyrs sydd wedi gweithio mor galed i gwblhau eu hyfforddiant.” Mae llwyddiant y rhaglen gychwynnol yn Sir y Fflint wedi annog y Gwasanaethau Cymdeithasol a BIPBC i ddatblygu prosiect tebyg i gefnogi ac addysgu pob Cartref Gofal Preswyl yn Sir y Fflint. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn arwain y fenter newydd a, hyd yn hyn, mae un ar ddeg o Gartrefi Preswyl a dros 20 o staff wedi cofrestru diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen newydd, a fydd yn cael ei gynnal tan yr Hydref. Llun Yn y llun mae nyrsys a dderbyniodd eu tystysgrifau’r wythnos hon, gydar Cyng Andy Dunbobbin