Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015

Published: 26/05/2015

Bydd digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn cael ei lansio ddydd Gwener 4 Mehefin yn Soughton Hall, Llaneurgain. Bydd nawfed Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn cael ei chynnal rhwng 13 ac 16 Hydref a bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn cael eu cynnal ar 23 Hydref. Mae’r Wythnos Fusnes, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture, yn un or digwyddiadau pwysicaf oi fath yn y rhanbarth, gan ddenu oddeutu 2,000 o fusnesau pob blwyddyn. Maen cefnogi cymuned fusnes y sir, yn ogystal â busnesau o’r rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. Bydd Wythnos Fusnes 2015 yn dechrau ar 13 Hydref gyda digwyddiad lansio yng Ngholeg Cambria. Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn cael eu cynnal yn Soughton Hall ddydd Gwener 23 Hydref. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Maer Cyngor yn gweithion ddiflino i roi ein busnesau, bach a mawr, ar y map ac mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi bod yn uchafbwynt i fusnesau yn y Sir ers naw mlynedd bellach. “Rydym ni hefyd yn ffodus mai llysgennad busnes Sir y Fflint, Yr Arglwydd Barry Jones, yw ein llywydd. “Hoffwn ddiolch ir holl fusnesau syn cefnogi Wythnos Fusnes Sir y Fflint ac annog pawb i ddod draw i’r digwyddiadau ym mis Hydref.” I gadw lle yn y digwyddiad lansio, a gynhelir am 5.30pm ddydd Iau 4 Mehefin yn Soughton Hall, cysylltwch â Hannah Bibby ar 01352 703219 neu e-bostiwch Hannah.bibby@flintshire.gov.uk. I archebu stondin neu i noddi’r digwyddiad, neu i gael mwy o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch âr tîm Wythnos Fusnes ar 01352 703219.