Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhesymoli Asedau’r Cyngor

Published: 04/06/2015

Mae Swyddfeydd y Sir Cyngor Sir y Fflint yn Rhodfa Gwepra, Cei Connah ar fin cael eu dymchwel. Y bwriad oedd dymchwel yr adeilad ar ôl agor canolfan gyswllt newydd Sir y Fflint yng Nghei Connah, sy’n darparu mynediad at wasanaethaur Cyngor a’r llyfrgelloedd mewn un lleoliad canolog i bobl leol. Nid oes penderfyniad wedii wneud ynghylch dyfodol y safle, a fydd yn cynorthwyo i greu cyfleoedd adfywio ehangach ar gyfer yr ardal. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: Mae dymchwel Swyddfeydd y Sir yng Nghei Connah yn un elfen on rhaglen rhesymoli eiddo syn ceisio gwneud gwell defnydd on swyddfeydd presennol, drwy gyfuno hyn â mabwysiadu’r trefniadau gweithio hyblyg newydd bydd modd i ni leihau nifer yr adeiladau swyddfa fydd ar y Cyngor eu hangen yn y dyfodol.”