Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archifdy Sir y Fflint – Taleb Sul y Tadau

Published: 03/06/2015

Eleni bydd Archifdy Sir y Fflint yn gwerthu taleb Sul y Tadau arbennig. Mae’r daleb yn costio £25 a bydd y sawl sydd yn ei derbyn yn gallu ei defnyddio i dalu am awr o waith ymchwil ar bwnc y cytunir arno, neu sesiwn diwtorial un-i-un efo aelod o staff yn yr Archifdy. Meddai’r Prif Archifydd, Claire Harrington: Mae’r anrheg yma’n addas i hanesydd profiadol neu nofis. Sut bynnag y mae’n dewis gwario’i daleb, ar waith ymchwil neu sesiwn un-i-un yn yr Archifdy, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich tad wrth ei fodd efo’i anrheg. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr Archifdy ar 01244 532364 rhwng 9am a 4 pm ddydd Llun, Mawrth, Iau neu ddydd Gwener.