Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Rhaglen Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015

Published: 10/06/2015

Mae rhaglen Wythnos Fusnes Sir y Fflint eleni wedi’i chyhoeddi. Cynhelir digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint o 13 tan 16 Hydref a bydd noson Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 yn cael ei chynnal ar 23 Hydref. Mewn cydweithrediad â chwmni AGS Security Systems a Westbridge Furniture, Wythnos Fusnes Sir y Fflint yw un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath yn y rhanbarth, ac mae’n denu oddeutu 2,000 o fusnesau bob blwyddyn. Mewn digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn Soughton Hall ger yr Wyddgrug yn ddiweddar, datgelwyd y rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir dros y pum diwrnod. Mae Wythnos Fusnes 2015 yn dechrau ddydd Mawrth 13 Hydref gydag Arddangosfa Fusnesau Rhanbarthol - y prif noddwr yw Westbridge Furniture- a gynhelir yng Ngholeg Cambria tan 4pm. Mae’n dechrau gyda brecwast busnes arloesedd Cynghrair Mersi Dyfrdwy am 8 am, yna i ddilyn caiff yr wythnos fusnes ei lansio’n swyddogol am 9.45am. Bydd nifer o arddangoswyr, sgyrsiau a gweithdai yn yr arddangosfa Ddydd Mercher 14 Hydref, lleoliad digwyddiadau’r bore fydd Gwesty Springfield yn Nhreffynnon, a thema’r diwrnod fydd Twf Rhanbarthol Tebygol. Bydd y bore’n cynnwys cyflwyniadau am y cynllun cludiant cenedlaethol a lleol, prosiect carchardai gogledd Cymru a Datblygiad Porth y Gogledd. Ddydd Iau 15 Hydref, yng Ngwesty Dewi Sant, Ewlo, thema’r diwrnod fydd yr economi genedlaethol a rhanbarthol. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys tueddiadau gweithgynhyrchu’r DU, gydag araith gan Bennaeth Gweithgynhyrchu Banc Barclay, Mike Rigby. Ddydd Gwener 16 Hydref, cynhelir digwyddiad sy’n boblogaidd iawn bob blwyddyn sef Amser Holi ac Ateb Aaelodau’r Cynulliad ac Aaelodau Seneddol yng Ngholeg Cambria, o 8.30 tan 9.30am. Bydd digwyddiad rhwydweithio twristiaeth rhanbarthol yn cael ei gynnal yng Ngwesty Northop Country House, am 11am gyda chyfle i rwydweithio dros ginio. Daw’r wythnos i ben yn ôl yr arfer â Gwobrau Busnes Sir y Fflint – prif noddwr, AGS Security Systems – sydd ar agor i bob busnes yn Sir y Fflint. Cynhelir hwn ddydd Gwener 23 Hydref yn Soughton Hall, Llaneurgain. Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, meddai Llywydd yr Wythnos Fusnes, yr Arglwydd Barry Jones: “Rwy’n falch o gael bod yn Llywydd i Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Mae bellach ar ei nawfed blwyddyn ac mae’n dal i wneud cynnydd sylweddol. Mae busnesau’n bwysig i’n Sir ac mae’r gymuned fusnes yn mynd o nerth i nerth heb fymryn o hunanfoddhad. Mae cwmnïau o’r radd flaenaf yma yng nghalon y ganolfan ragoriaeth weithgynhyrchu. Mae Sir y Fflint yn cystadlu ar lefel uwch na’r disgwyl a dylem i gyd fod yn falch iawn ohoni.” Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn eithriadol o falch o Wythnos Fusnes Sir y Fflint a theimlwn mai hon yw’r gorau o’i math yng ngogledd Cymru. Roedd y digwyddiad lansio eleni yn ysbrydoledig ac roedd yn wych gweld cymaint o wynebau newydd a busnesau newydd yn awyddus i gymryd rhan. Mae’r Cyngor yn cymryd ei rôl o gefnogi ein cymuned fusnes yn ddifrifol iawn a byddwn yn annog busnesau o bob maint i gymryd rhan yn Wythnos Fusnes Sir y Fflint – i ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i rwydweithio a masnachu a chodi proffil eich busnes.” Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae entrepreneuriaeth yn gryf yn Sir y Fflint ac mae’r sir yn cael effaith sylweddol yn yr economi genedlaethol. Mae Sir y Fflint yn lle da i wneud busnes ac mae’r Cyngor hwn yn gweithio’n ddiflino i roi busnesau o bob maint ar y map. Os bydd unrhyw beth fel y digwyddiad lansio, credaf y bydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint eleni yn eithriadol o gyffrous ac ysgogol, a’r gorau eto.” Am gyfle i noddi, i archebu stondin ac am fanylion pellach am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, edrychwch ar wefan www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch â thîm yr Wythnos Fusnes ar 01352 703219. Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint hefyd ar Twitter: @FBW_FCC Llun Yn y digwyddiad lansio, o’r chwith i’r dde, mae: Y Cynghorydd Aaron Shotton, Jonathan Turner (AGS Security Systems), Paul Islip (Westbridge Furniture), Y Cynghorydd Derek Butler, Yr Arglwydd Barry Jones, Y Foneddiges Janet Jones, Y Cynghorydd Ray Hughes (Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint).