Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Tai Gofal Ychwanegol y Fflint yn cael ei enwi

Published: 09/06/2015

Bydd y Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer pobl hyn yn y Fflint yn cael ei enwi yn Llys Raddington. Yn ddiweddar, cafodd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, syn rhan o Grwp Tai Pennaf, ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu’r cynllun ar dir oddi ar Stryd Coleshill, sydd Ar hyn o bryd yn eiddo i’r Awdurdod Lleol. Bydd Llys Raddington yn darparu 73 o fflatiau hunangynhwysol un a dwy ystafell wely ynghyd ag ystod eang o gyfleusterau cymunedol, a bydd yn cael ei reoli gan Tai Clwyd Alyn Cymdeithas mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynghorydd Ian Roberts, syn Gadeirydd ar Grwp Llywio Uwch gynllun y Fflint, yn egluro: “Mae Raddington yn enw sy’n gysylltiedig iawn â hanes y Fflint, gan mai dyma oedd enwr anheddiad gwreiddiol. Cafodd y dref a elwir bellach yn y Fflint ei grybwyll gyntaf yn llyfr y Domesday yn 1086, lle cyfeiriwyd ato fel Raddington. Dymar ardal lle cafodd Castell y Fflint ei adeiladu, ond erbyn diwedd y 13eg ganrif, cafodd bwrdeistref y Fflint ei chreu, a diflannodd yr enw Raddington. “Awgrymwyd Raddington i ddechrau gan y Cynghorydd Vicky Perfect, a oedd am weld yr enw’n ymddangos fel rhan o adfywiad y Fflint. Pan ddaeth i benderfynu ar enw ir cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd, teimlais mai dyma oedd y cyfle perffaith, ac felly cytunwyd ar yr enw Llys Raddington. “Yr wythnos hon yn unig, rydym yn darganfod mwy a mwy am darddiad canoloesol y dref. Rydym yn teimlo bod yr enw hwn yn berffaith ac yn briodol, gan gysylltu hanes balch y Fflint gyda dyfodol cyffrous y dref.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Dyma gam mawr arall ymlaen ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn Sir y Fflint. Gydar Cyngor a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth gydai gilydd, rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld y cynllun hwn yn blodeuo. Bydd Llys Raddington yn darparu Cyfleusterau ardderchog i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion.” Ychwanegodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Mae enw Llys Raddington yn ddewis gwych ac ysbrydoledig. Maer cynllun Gofal Ychwanegol yn y Fflint yn gyfle arall gwych i ddatblygu tai syn galluogi i bobl hyn gael dewis newydd, tran cynnal eu hannibyniaeth au lles.” Dywedodd Graham Worthington ar gyfer Grwp Tai Pennaf: “Bydd y cynllun newydd, fel anheddiad gwreiddiol Raddington, mewn lleoliad allweddol gan fod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned. Rydym yn credu ei bod yn ffordd ddelfrydol o groesawu’r dyfodol gydag ymdeimlad haeddiannol o barch tuag at dreftadaeth yr ardal.” Gall unrhyw un sydd am gofrestru i gael pecyn gwybodaeth am y fflatiau newydd gysylltu â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn ar 01745 538300 neu e-bostio enquiries@clwydalyn.co.uk