Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy – Yr Ymosodiad

Published: 17/06/2015

Mae sefydliadau ar draws gogledd Cymru a Swydd Gaer yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i fynd ir afael â rhywogaethau anfrodorol ymledol ar lannau Afon Dyfrdwy ai llednentydd. Yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus o Ddiwrnod Mawr Afon Dyfrdwy - Yr Ymosodiad, maer digwyddiad yn cael ei gynnal unwaith etor haf hwn. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae 60 o ddigwyddiadau wedi eu cynnal ac mae gwirfoddoli wedi treulio cyfanswm o bron i 2,000 o oriau yn mynd ir afael â rhywogaethau anfrodorol ymledol fel planhigion Jac y neidiwr, llysiaur dial ac efwr enfawr. Mae rhaglen gydlynol o weithgareddau gwirfoddol yn cael ei chynnal o fis yma tan fis Awst gyda gwahanol gyfleoedd i bobl gymryd rhan, o darddiad yr afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri hyd at aber Afon Dyfrdwy. Maer digwyddiad yn agored i bawb ar draws y rhanbarth i helpu i gael gwared ar blanhigion anfrodorol ymledol o lannau Afon Dyfrdwy ai llednentydd ac i gofnodi ardaloedd problemus. Byddwn yn mynd i’r afael â rhywogaethau anfrodorol, a ddygwyd i Brydain naill ain ddamweiniol neun fwriadol, sy’n gallu achosi problemau mawr i fywyd gwyllt brodorol yn ogystal â chael effeithiau eraill, fel gwneud glannau afonydd yn fwy tueddol o erydu a chynyddu perygl llifogydd. Mae partneriaeth o sefydliadau Cymreig a Seisnig, gan gynnwys gwasanaethau cefn gwlad pum Awdurdod Lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol Afon Dyfrdwy, Cadwch Gymrun Daclus, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, sy’n cael ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy - Yr Ymosodiad yn mynd o nerth i nerth pob blwyddyn ac mae’n gyfle gwych i ni gael effaith gadarnhaol ar Afon Dyfrdwy an hamgylchedd lleol. Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydw i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan a galw draw i’w digwyddiad agosaf i roi help llaw. “Yn Sir y Fflint, bydd Cyngor Sir y Fflint, Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cydweithio ac yn arwain tîm o wirfoddolwyr ger Afon Alun ddydd Mawrth 23 Mehefin, ddydd Iau 25 Mehefin, ddydd Iau 2 Gorffennaf a dydd Iau 16 Gorffennaf.” Meddai Meryl Norris, Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy: “Mae ymdrechion y gwirfoddolwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gwneud y digwyddiad yma’n llwyddiant go iawn. Maer gwahanol ddigwyddiadau Taclo Jac y Neidiwr’ sy’n cael eu cynnal yn y dalgylch yn ffordd wych o fynd allan am dro a gweld lleoliadau hardd ar lan yr afon a’n helpu ni i fynd ir afael â chadwraeth.” Os hoffech chi neu’ch grwp gymryd rhan a thaclo planhigion Jac y neidiwr neu lysiau’r dial, neu os hoffech chi gadw golwg ar blanhigion anfrodorol a chofnodi eu lleoliad, cysylltwch â’ch cyswllt lleol am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi neu ewch i www.facebook.com/BigDeeDayTheInvasion neu www.dinns.org.uk. Cysylltiadau Lleol Swydd Gaer Laura George lgeorge@cheshirewt.org.uk 01948 820728 Parc Cenedlaethol Eryri Gethin Davies g.davies@eryri-npa.gov.uk 01766 772255 Sir Ddinbych/AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Rhun Jones rhun.jones@denbighshire.gov.uk 01978 869618 Sir y Fflint Lawrence Gotts lawrence.w.gotts@flintshire.gov.uk 01352 703263 Wrecsam Liz Carding Liz.carding@wrexham.gov.uk 01978 292000 Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy Meryl Norris merylnorris@wildlifetrustswales.org 07880 197942 Nodiadau i Olygyddion: Fech gwahoddir i anfon gohebydd a ffotograffydd i Fferm y Rhug, Corwen (LL21 0EH) ar gyfer lansiad swyddogol Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy – Yr Ymosodiad am 1pm ddydd Gwener 26 Mehefin lle bydd staff, pwysigion a gwirfoddolwyr. Cysylltwch â merylnorris@wildlifetrustswales.org / 078 80197942 am fwy o wybodaeth. Ynghylch Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy – Yr Ymosodiad Mae Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy – Yr Ymosodiad yn chwaer ddigwyddiad i Ddigwyddiad Mawr Afon Dyfrdwy – Glanhau’r Afon sydd wedi ei gynnal ers 2008. Dechreuodd yr ymosodiad yn 2013, pan gafodd ei gynnal dros ddeuddydd (28 a 29 Mehefin) gydag 17 o ddigwyddiadau ar hyd a lled y dalgylch. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys mynd i’r afael â phlanhigion Jac y neidiwr. Yn 2014 cafodd y digwyddiad ei gynnal drwy fis Gorffennaf gyda 40 o ddigwyddiadau a gwirfoddolwyr yn rhoi cyfanswm o 1,680 o oriau o’u hamser. Mae Grwp Llywio Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy – Yr Ymosodiad yn cynnwys y sefydliadau canlynol - Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy, Cadwch Gymrun Daclus, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a Chyfoeth Adnoddau Cymru. Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy Mae Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy yn brosiect partneriaeth trawsffiniol syn ceisio rheoli rhywogaethau anfrodorol ymledol yn ardal Afon Dyfrdwy yng Nghymru a Lloegr mewn modd cydlynol a chyfannol. Sefydlwyd y prosiect yn 2012 yn dilyn gweithdy gan Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru. Yn 2013, yn dilyn sefydlu grwp llywior prosiect, lluniwyd cynllun gweithredu strategol. Maer prosiect yn gweithion agos gyda sefydliadau a grwpiau gwirfoddol i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau ar wybodaeth i reoli rhywogaethau anfrodorol ymledol yn effeithiol ac i’w galluogi i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau anfrodorol ymledol a bioddiogelwch. Swyddog Prosiect Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol Afon Dyfrdwy: Meryl Norris merylnorris@wildlifetrustswales.org 078 80197942. Rhywogaeth Anfrodorol Ymledol Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn rhywogaethau, anifeiliaid neu’n blanhigion a ddygwyd i Brydain o wledydd eraill ac sy’n cael effaith negyddol ar ein hamgylchedd, ein heconomi a’n lles. Maer rhywogaethau hyn yn costio dros £1.7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain, a rhain yw’r ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth. Mae rhywogaethau fel Jac y neidiwr a llysiau’r dial yn cynyddu cyfraddau erydu ac yn gallu achosi llifogydd; mae’r efwr enfawr yn cynnwys sudd syn achosi llosgiadau difrifol i groen pobl; mae’r minc Americanaidd wedi achosi gostyngiad sydyn yn niferoedd llygod pengrwn y dwr brodorol ac mae’r rhain wedi diflannu o rai ardaloedd lleol yn gyfan gwbl; ac mae cimwch afon America yn cario pla cimwch syn lladd ein cimwch bodiog gwyn brodorol ac sydd wedi achosi dirywiad sylweddol yn eu niferoedd.