Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tybaco Anghyfreithlon wedi’i Atafaelu
Published: 12/05/2014
Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru
wedi arwain at atafaelu tybaco ac alcohol anghyfreithlon.
Cafodd tua 25,000 o sigaréts ynghyd â thybaco rholio â llaw eu hatafaelu o
siopau yn Yr Wyddgrug a Shotton. Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y sigaréts yn
mynd ymlaen. Cefnogwyd yr ymgyrch gan gwn synhwyro tybaco arbenigol a ddaeth o
hyd i’r tybaco a oedd wedi’i guddio mewn twr cyfrifiadur a’r tu ôl i baneli
ffug o dan gownter siop.
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Warchod
y Cyhoedd:
“Mae hyn yn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth rhwng asiantaethau
gorfodi. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon rhad yn ei gwneud hi’n haws i
ysmygwyr newydd fynd yn gaeth i dybaco ac yn ei gwneud hi’n galetach i ysmygwyr
sydd am roi’r gorau iddi dorri’r arfer. Ymhell o fod yn drosedd heb neb yn
dioddef mae i’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon ganlyniadau difrifol o ran
trosedd ac iechyd yn y gymuned ac mae’n achosi niwed economaidd i fusnesau
lleol cyfreithlon.”
Gall unrhyw un sydd am roi gwybod am werthiant tybaco anghyfreithlon wneud
hynny wrth Safonau Masnach ar 08454 040506. Mae sigaréts neu dybaco rholio â
llaw sydd wedi’u smyglo, eu gwerthu’n anghyfreithlon neu sy’n ffug ac nad ydynt
yn destun unrhyw reolaeth ar eu cyfansoddiad yn gynhyrchion tybaco
anghyfreithlon.
Capsiwn y llun: Sigaréts wedi’u cuddio yn y twr cyfrifiadur.
Nodyn i Olygyddion
Gellir cyfeirio ymholiadau’r wasg at Richard Powell neu Lise Mitchell ar 01352
703181.