Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fframwaith adroddiad blynyddol gan y Cyngor

Published: 12/06/2015

Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod perfformiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 16 Mehefin . Bydd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling, yn cynhyrchu adroddiad blynyddol fel rhan o fframwaith perfformiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r adroddiad, sydd hefyd yn ystyried pa mor effeithiol fu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2014/2015, yn nodi blaenoriaethau’r Cyngor. Cafodd adroddiadau blaenorol eu cydnabod gan y rheoleiddwyr yn asesiadau teg a chywir. Datblygwyd yr adroddiad i adlewyrchu prif themâur Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a ddaw i rym fis Ebrill 2016. Yn ystod blwyddyn o newidiadau sylweddol yn y gwasanaeth, cafwyd perfformiad da ym mhob agwedd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac mewn nifer o agweddau ar y Gwasanaethau i Blant. Mae hyn i gyd yng nghyd-destun galw cynyddol ar y gwasanaethau, anghenion mwy cymhleth a sefyllfa gyllidebol anodd. Dyma’r prif bwyntiau - Cynorthwyo rhagor i fyw gartref drwy raglenni ail-alluogi - ymateb i gynnydd o 28% yn y nifer a gaiff eu cyfeirio at y gwasanaeth hwn - Sefydlu gwasanaeth newydd yn cynnig cymorth tymor byr mewn lleoliad Gofal Cartref yn lle anfon pobl i’r ysbyty, neu i ganiatáu iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Llwyddwyd i helpu 90 o bobl drwy’r gwasanaeth hwn. - Perfformiad da o ran cyrraedd dangosyddion cenedlaethol yn y prosesau amddiffyn plant Mae’r blaenoriaethau gwella allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys cynllun gweithredu i gryfhau gwasanaethau dementia, gweithredu system Un Pwynt Cyswllt, a datblygu Gofal Ychwanegol. Dylid hefyd roi blaenoriaeth i ymchwilio i fodelau cyflenwi gwahanol, i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fedru cynnig gwasanaethau pwysig i gymunedau ac unigolion. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae hwn yn adroddiad rhagorol ac yn asesiad teg o’n perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Mae hefyd yn wych mai Double Click, ein menter newydd i bobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl, fu’n gyfrifol am ddylunio’r adroddiad. Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fwrw ymlaen i newid y gwasanaeth er gwell a’u bod mewn sefyllfa dda i ymateb i’r sefyllfa ariannol anodd rydym yn ei hwynebu, ond mae hefyd yn realistig ynghylch maint yr her. Nid ydym yn llaesu dwylo, ond rwy’n falch o’r gwaith da a wnaed gan bawb.