Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfnod cyffrous ar gyfer canol tref y Fflint

Published: 15/06/2015

Mae gwaith ar y gweill i glirior blociau olaf o fflatiau deulawr syn weddill yn y Fflint drwy ddymchwel Feathers Lea sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst. The Walks fydd y safle cyntaf i gael ei ail-ddatblygu fel rhan o Raglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor lle bydd cyfuniad o 95 o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu gyda’r gwaith adeiladu i fod i ddechrau ym mis Ionawr 2016. Bydd cynllun ailddatblygu safle The Leas yn cynnwys adeiladu cynllun Gofal Ychwanegol 72 uned newydd ar gyfer y dref a fydd yn cael eu hadeiladu au rheoli gan Grwp Tai Pennaf. Bydd gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau ym mis Hydref 2015, a rhagwelir y bydd yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2017. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn codi canolfan feddygol newydd ar safle The Leas ac mae’r gwaith adeiladu i fod i ddechrau ym mis Tachwedd a disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau ym mis Tachwedd 2016. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai, Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous, nid yn unig ar gyfer canol tref y Fflint, lle bydd 167 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar hen safle’r fflatiau deulawr, ond ar gyfer y sir gyfan gan mai nod cynllun SHARP y cyngor yw adeiladu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys dros 200 o dai cyngor newydd. Bydd Safon Tai Sir y Fflint a ddatblygwyd drwy ymgynghori â thenantiaid, yn llywio cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys ansawdd yr edrychiad mewnol ac allanol, safonau effeithlonrwydd ynni a darpariaeth parcio.” Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter, Mae safler fflatiau deulawr wedi cael ei glirio fesul cam er mwyn ein galluogi i ail-gartrefu’r tenantiaid a effeithiwyd yn ofalus ac mae swyddogion y cyngor wedi gweithion galed gydan tenantiaid i ddyrannu cartrefi newydd syn bodloni eu gofynion ar gyfer y math o eiddo a lleoliad cyn belled ag y bo modd. “Wrth ir cyngor ai bartneriaid symud yn nes at wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer adfywio Canol Tref y Fflint, hoffwn ddiolch i bobl y Fflint a busnesau lleol am eu hamynedd au dealltwriaeth wrth ir gwaith hwn fynd yn ei flaen.” Dywedodd Y Cynghorydd Ian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Prif Gynllun y Fflint, “Gyda fy nghyd-gynghorwyr lleol Alex Aldridge a David Cox hoffwn ddiolch i bawb a symudodd eu cartref i ganiatáu’r datblygiad cyffrous hwn i ddwyn ffrwyth. Mae eu cydweithrediad au dealltwriaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Hoffem ddangos ein diolch a’n gwerthfawrogiad hefyd i bawb syn ymwneud âr prosiect am eu gweledigaeth, eu sgiliau, ymroddiad a’u penderfyniad i wthior cynllun yn ei flaen. “Bydd y gwaith o ddatblygu llety cynllun gofal ychwanegol newydd yn dechrau’r Hydref hwn ac erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf dylai fod gennym ddarlun clir o ganol tref newydd y Fflint yn codi o’r hen un.” Nodiadau i olygyddion O’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Alex Aldridge, Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter, Y Cynghorydd Helen Brown, Nic Evans, Uwch Reolwr Gwasanaethau Tai Cyngor, Tony Jones, Michael Freeley of J. Freeley Ltd ac Y Cynghorydd David Cox,