Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Gwybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog

Published: 15/06/2015

Gan barhau â’r ymrwymiad a addawyd yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Gorffennaf 2013, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Digwyddiad Gwybodaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog ddydd Gwener 10 Gorffennaf am 2pm yn Clwyd Theatr Cymru. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid a gyhoeddir sydd wedi’i ddylunio i ganiatáu i fusnesau a sefydliadau elusennol fynegi eu cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog, ac i ymrwymo i ddulliau o ddarparu cefnogaeth. Mae’r Cyngor yn awyddus i annog busnesau a sefydliadau lleol i lofnodi’r Cyfamod ac ymuno â’r cannoedd o fusnesau ledled y DU sydd eisoes wedi gwneud hynny. Yn y Digwyddiad Gwybodaeth, bydd personél y Lluoedd Arfog yn egluro sut y mae’r Cyfamod yn gweithio ynghyd â’r buddion a gwerth y gefnogaeth y gall sefydliadau lleol ei darparu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.flintshire.gov.uk/covenant Os ydych yn fusnes lleol neu’n sefydliad elusennol cofrestrwch eich presenoldeb erbyn dydd Gwener 26 Mehefin ar www.surveymonkey.com/s/AFCCRegistration neu anfonwch e-bost at covenant@flintshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog : Rwy’n falch iawn o gefnogi’r Lluoedd Arfog yn Sir y Fflint. Hoffwn annog sefydliadau, bach neu fawr, i ddod i’r digwyddiad ar 10 Gorffennaf a dysgu mwy am y Cyfamod a darganfod beth y gallant ei wneud i gefnogi personél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd”.