Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Calendr Digwyddiadau Cefn Gwlad 2015

Published: 13/05/2014

Mae cystadleuaeth i ganfod ffotograffau ar gyfer calendr digwyddiadau cefn gwlad Sir y Fflint 2015 yn chwilio am geisiadau ar gyfer y gwanwyn. Y thema eleni yw ‘Pobl yn mwynhau Cefn Gwlad Sir y Fflint’. Trefnir y gystadleuaeth gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ac mae’r ceisiadau ar gyfer pob tymor yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra. Yna mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio am y ceisiadau buddugol. Defnyddir y lluniau yn y calendr a bydd y ffotograff sy’n ennill y gystadleuaeth gyfan yn ymddangos ar y clawr. Enillwyr adran y gaeaf ar gyfer 2015 yw Stephen Warrilow a Josie Towers. Mae’r gystadleuaeth bellach ar agor i geisiadau ar gyfer gwanwyn 2015. Mae angen anfon y lluniau erbyn 6 Mehefin a byddant yn cael eu harddangos yn y parc rhwng 16 a 30 Mehefin. Gall pob ymgeisydd gyflwyno uchafswm o bump llun. E-bostiwch neu anfonwch ddisg o’ch ffotograffau dewisedig (gofalwch eu bod yn fwy na 1mB (megabyte) o faint) i Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, Parc Gwepra, Cei Connah, Sir y Fflint CH5 4HL neu calendarphotocompetition@flintshire.gov.uk gan nodi tymor y gwanwyn a’ch enw, eich oedran, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn. Rhaid i’r ffotograff fod yn waith gwreiddiol; ni dderbynnir unrhyw gyfraniadau proffesiynol. Ni ddylid cynnwys lluniau o blant oni bai fod eu henwau wedi’u cynnwys yn ogystal â chaniatâd eu rhieni/gwarcheidwad, a dylent hefyd nodi eu bod yn caniatáu i’r llun gael ei ddefnyddio. Ni allwn ddychwelyd ffotograffau ac ar ôl iddynt gael eu cyflwyno byddant yn eiddo i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad i’w defnyddio mewn cyhoeddiadau a rhaglen ddigwyddiadau 2015. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar www.siryfflint.gov.uk, tudalen Facebook Parc Gwepra neu drwy ffonio’r pac ar 01244 814931.